Blwyddyn lwyddiannus Menter Iaith Sir Ddinbych
Daeth cyfle i groniclo gwaith y flwyddyn yng nghyfarfod blynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych yn ddiweddar, wrth i’r Cadeirydd, Bethan Cartwright, longyfarch staff a gwirfoddolwyr am ymgysylltu â bron i 5,000 o unigolion drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2025 i 2026. Dywedodd y...
Cerdded, dysgu a sgwrsio!
Bu’n haf prysur iawn gyda'n teithiau cerdded a thywys Cymraeg yn Sir Ddinbych. Cafodd dysgwyr a siaradwyr rhugl y cyfle i fwynhau'r awyr agored, darganfod hanes a natur ein hardaloedd lleol, a chymdeithasu mewn awyrgylch cyfeillgar. Roedd y teithiau'n ffordd wych o...
Syllu ar y Sêr yn Ninbych
Y teuluoedd yn paratoi i fynd i mewn i’r Planetariwm tywyll, sydd i weld yn y cefndir
Syllu ar y Sêr – dewch!
Dydd Mercher a Dydd Iau, 29 a 30 Gorffennaf 2026 Ymunwch â ni yn Neuadd y Dref, Dinbych 10am - 4pmSioeau Planetarium Mae'r niferoedd yn gyfyngedig, ac mae'n RHAID archebu lle o flaen llaw!Dydd Mercher neu ddydd Iau 29 a 30 Gorffennaf 10.30am Sesiwn Gymraeg11.30am...
Prysurdeb yr Haf i’r Fenter Iaith
Wrth i'r ysgolion gau am egwyl hir yr haf, bydd rhieni, neiniau, teidiau a gwarcheidwyr yn siŵr o fod yn chwilio am syniadau i ddiddanu'u plant. Yma yn sir Ddinbych, mae'r Fenter Iaith yn cydweithio gyda phartneriaid i gynnal, cefnogi ac hyrwyddo...
Gwirfoddolwyr Gwych Menter Iaith Sir Ddinbych
Dathlu Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr 2026 Wyddoch chi bod Menter Iaith Sir Ddinbych yn ddibynnol iawn ar wirfoddolwyr? Fel elusen gofrestredig, mae’r staff yn ddiolchgar iawn o gefnogaeth aelodau’r Bwrdd a gwirfoddolwyr sy’n eu cefnogi wrth gynnal...
Taith Gerdded Glyndyfrdwy
Cafwyd taith gerdded fendigedig ddydd Mercher 29 Ebrill yng Nglyndyfrdwy ei gynnal dan arweiniad y tywysydd profiadol Arfon Hughes. Dyma'r daith gyntaf o nifer o deithiau cerdded yn ne Sir Ddinbych lle bydd cyfle i ddysgwyr ddod i adnabod eu cynefin yn well a dysgu...
Cymuned yn dod ynghyd trwy ‘Paned a Sgwrs’
Mae pwysigrwydd rhannu’r Gymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chefnogol wedi’i amlygu eto drwy gyfres o sesiynau Paned a Sgwrs ar draws Sir Ddinbych. Mae’r sesiynau, a gefnogir gan Menter Iaith Sir Ddinbych a Popeth Cymraeg, mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr lleol, yn...
Gweithdy Gwehyddu Helyg
Dros wyliau'r Pasg cafodd plant a theuluoedd gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy gwehyddu helyg dan ofal Eirian Muse. Dyma weithdy hynod boblogaidd oedd yn rhoi cyfle i blant a theuluoedd ddysgu sgil newydd wrth ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chartrefol...
Taith Wanwyn Magi Ann
Mae Magi Ann sy’n un o hoff gymeriadau plant bach Cymru wedi cael pythefnos hynod o brysur yn ddiweddar ar ôl bod ar daith yn ymweld â phlant bach sir Ddinbych. Bu’n crwydro’r sir ar Daith Wanwyn yn canu, dawnsio ac yn darllen storïau yng nghwmni criwiau newydd o...
Bwletin Gwanwyn '26
Croeso i rifyn y gwanwyn newyddlen Menter Iaith Sir Ddinbych. Gyda’r tywydd braf ar droed, mae tymor y gwanwyn wedi cyrraedd a bu’n dymor prysur! Gobeithio cewch flas ar y darllen..
Bwletin Gaeaf '25/26
Croeso i fwletin cyntaf Menter Iaith Sir Ddinbych. Dewch i daro golwg dros uchafbwyntiau y chwarter diwethaf gyda ni.










