Ymuna â‘r criw
Wyt ti’n frwdfrydig am y Gymraeg? Eisiau gwneud gwahaniaeth yn y gymuned?
Tyrd i fod yn rhan o griw Menter Iaith Sir Ddinbych trwy wirfoddoli gyda ni.
Awr neu ddwy, neu efallai mwy – cysyllta â ni heddiw ar 01745 812822 neu ruth@misirddinbych.cymru i drefnu sgwrs am sut wyt ti’n gallu helpu dy gymuned Gymraeg a sut allwn ni fel Menter gynnig cyfleoedd i chdi gymdeithasu neu ddatblygu sgiliau a phrofiad.
Eisiau darganfod mwy? Dyma rhai o’r ffyrdd mae pobl frwdfrydig, fel ti, yn ein helpu:
- Bod yn rhan o bwyllgor ardal trwy’r Fenter Iaith
- Bod yn rhan o fwrdd neu bwyllgor y Fenter
- Helpu yn rhai o glybiau’r Mentrau e.e. chwaraeon, ieuenctid, drama ayyb.
- Ymuno mewn gweithgareddau i ddysgwyr gan roi cyfle iddynt gymdeithasu gyda siaradwyr eraill
Gwirfoddolwyr y Mileniwm a’r Bagloriaeth Gymreig
Eisiau logio oriau ar gyfer cynllun gwirfoddoli neu gymunedol? Rydym yn hapus i dy gefnogi.
Pwyllgor Ardal
Trwy fod yn rhan o Bwyllgor Ardal byddi di’n helpu i ddatblygu’r gweithgareddau Cymraeg mewn ardal benodol – tref, pentref, dyffryn, bro – gan ddefnyddio system Gweithredu’n Lleol.
Beth fyddi di’n ei wneud?
- Mynychu cyfarfodydd
- Adnabod anghenion lleol
- Helpu i greu cynllun i ateb yr anghenion e.e. trefnu digwyddiadau
Mae’r cynllun Gweithredu’n Lleol wedi’i greu ar gyfer cymunedau gyda nifer uchel o siaradwyr Cymraeg er mwyn rhoi cyfle i bobl barhau i ddefnyddio’r Gymraeg a chadw’r niferoedd yn uchel. Mae’n bosib defnyddio’r system mewn unrhyw ardal, beth bynnag yw’r darlun ieithyddol, fel ffordd o adnabod anghenion a mynd ati i’w hateb. Mae aelod staff o’r Fenter Iaith leol wedi derbyn hyfforddiant er mwyn cefnogi dy bwyllgorau ardal newydd neu os wyt angen cefnogaeth.
Gwirfoddoli Mewn Digwyddiad
Wyt ti’n mwynhau mynd i ddigwyddiadau? Gwyliau, gorymdeithiau, gigs a mwy – mae’r Mentrau Iaith yn cynnal ac yn cefnogi pob math o weithgareddau Cymraeg trwy’r flwyddyn gyda help gwirfoddolwyr fel ti.
Rhai pethau byddi di’n gallu gwneud i helpu:
- Stiwardio digwyddiad
- Gwerthu tocynnau
- Rheoli llwyfan
- Helpu gyda’r trefnu
Pwyllgor / Bwrdd Menter
Mae’r Mentrau Iaith wedi eu sefydlu gan bobl fel ti sy’n angerddol am y Gymraeg a’u cymunedau. Mae gan bob Menter Iaith fwrdd cyfarwyddwyr sy’n arwain gwaith y fenter yn wirfoddol. Trwy fod yn rhan o’n bwrdd ni byddi di’n medru’n helpu i ddatblygu’r Fenter Iaith.
Trwy fod ar y bwrdd byddi di’n
- Mynychu cyfarfodydd bwrdd chwarterol
- Mynychu cyfarfod blynyddol
- Pennu cyllidebau a chynlluniau gwaith
- Creu cynllun gweithredol a chyfrannu syniadau i waith y fenter
Fel aelod o fwrdd neu bwyllgor bydd modd i ti dderbyn rôl benodol fel Cadeirydd, Trysorydd, Ysgrifennydd neu arwain ar brosiectau sy’n bwysig i ti.
Byddi di’n cael cyfle i ddysgu a datblygu gan gyfarwyddwyr Mentrau Iaith eraill mewn cyfarfodydd rhanbarthol a thrwy hyfforddiant sy’n cael eu trefnu gan MIC. Fel Cadeirydd, byddi hefyd yn cael gwahoddiad i fynychu Cynhadledd flynyddol MIC gyda Phrif Swyddog a staff i drafod pynciau pwysig a rhwydweithio gyda’r Mentrau Iaith eraill dros Gymru.
Helpu mewn gweithgareddau i blant a phobl ifanc
Mwynhau dawns, drama, cerdded, barddoni, adrodd stori, chwarae gemau fideo, adeiladu Lego neu chwarae ukulele? Fyddet ti’n mwynhau rhannu dy sgiliau? Os oes gen ti ddiddordeb cymryd rhan mewn gweithgareddau – yn weinyddol neu fel arweinydd, cysyllta â ni heddiw.
Byddi di’n gallu
- Helpu’r Fenter i farchnata’r clwb
- Helpu’r Fenter i weinyddu’r clwb
- Helpu’r Fenter i arwain y clwb
Gweithgareddau i siaradwyr Cymraeg newydd
Eisiau ein helpu i gyrraedd y miliwn? Mae’r Fenter yn cynnal gweithgareddau i helpu siaradwyr newydd i fwynhau’r Gymraeg gan roi cyfle i bobl sy’n dysgu’r Gymraeg i gymdeithasu a defnyddio’r iaith tu allan i’r gwersi.
Sut wyt ti’n gallu helpu?
- Ymuno â grwpiau sgwrsio yn achlysurol
- Siarad a gwrando
- Cefnogi ymgyrchoedd i ddysgu Cymraeg fel diwrnod Shwmae Sumae