Newyddion

Taith Gwilym Bowen Rhys Trio

Taith Gwilym Bowen Rhys Trio

Mewn partneriaeth rhwng PYST, Mentrau Iaith Cymru a Noson Allan, dyma gyhoeddi'r drydedd gylchdaith o amgylch ardaloedd gwledig Cymru. Yn dilyn llwyddiant y ddwy gylchdaith hyd yma, fu'n gweld HMS Morris a The Gentle Good yn perfformio ar hyd a lled Cymru yn 2023,...

Cwrs Cyffrous

Cwrs Cyffrous

Hoffech chi (neu rywun 'de chi'n nabod) ddatblygu sgiliau bywyd a rhifedd, a hynny mewn sesiynau hwyliog, cymdeithasol yn hytrach na gwersi ffurfiol?  Mae Menter Iaith Sir Ddinbych ar fin dechrau cyfres o sesiynau dan arweiniad arbenigwyr rhifedd  a...

Swydd Newydd

Swydd Newydd

Disgrifiad Swydd Teitl y Swydd: Swyddog Ardal Wledig Sir Conwy a Sir Ddinbych (Ardaloedd Uwch Aled, Bro Aled a Llanrhaeadr yng Nghinmeirch). Disgrifiad Swydd Teitl y Swydd: Swyddog Ardal Wledig Sir Conwy a Sir Ddinbych (Ardaloedd Uwch Aled, Bro Aled a Llanrhaeadr yng...

Cwis Dim Clem 2024 – cystadlu brwd eto eleni!

Cwis Dim Clem 2024 – cystadlu brwd eto eleni!

Bu miloedd o blant Cymru'n cystadlu yn Cwis Dim Clem eto eleni. Roedd cannoedd o ysgolion wedi cystadlu yn y cwis llawn hwyl sy’n cael ei threfnu gan y Mentrau Iaith. Pob blwyddyn mae timau brwdfrydig o blant blwyddyn 6 yn cystadlu - ateb cwestiynau mewn sawl rownd...

Paned a Sgwrs yn Hybu’r Gymraeg

Paned a Sgwrs yn Hybu’r Gymraeg

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio gyda gwirfoddolwyr mewn cymunedau ledled y sir i greu cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg ymarfer eu sgiliau llafar tra’n cymdeithasu dros baned neu wrth fynd am dro. O Brestatyn i Bentredŵr, mae bellach dros 100 o...

Deian a Loli yn dod i Ddinbych

Mae’r ffôn wedi bod yn boeth ers cyhoeddiad Deian a Loli am eu ffilm bach diweddaraf! Mae dangosiad 10:30am a 6pm o 'Deian a Loli a Chloch y Nadolig' yn Theatr Twm o'r Nant bellach yn llawn. Diolch i Glwb Ffilmiau Dinbych, rydym bellach yn gallu cynnig dangosiad...

Dydd Owain Glyndŵr 2023

Dydd Owain Glyndŵr 2023

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych, mewn cydweithrediad â phwyllgor Dydd Owain Glyndŵr a Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych a yn cynnal gweithgaredd yng Nghorwen i deuluoedd, i ddathlu Dydd Owain Glyndŵr. Mae'r Fenter wedi cynllunio helfa hanes i ddysgu mwy am hanes...

Gweithdai Lego yn dod a hanes yn fyw i bobl ifanc

Gweithdai Lego yn dod a hanes yn fyw i bobl ifanc

Bydd Menter Iaith Sir Ddinbych yn ôl yn Llyfrgell Dinbych ddydd Sadwrn yma (16 Medi) i gynnal gweithdai Lego i blant 7 -15 oed. Gweithdai 1.5 awr lle bydd cydweithio i ail-greu’r Brodordy ac adeilad y Llyfrgell yn Ninbych. Bydd y sesiwn bore yn un dwyieithog, a’r...

Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym

“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.” Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos.  Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan. Bydd cyfle euraidd i’r...

Dathlu gwaith y gwirfoddolwyr ar ddechrau mis Mehefin

Dathlu gwaith y gwirfoddolwyr ar ddechrau mis Mehefin

Wyt ti’n hoffi bod yng nghwmni plant a phobl ifanc? Eisiau ymarfer dy Gymraeg? Dysgu sgil newydd? Neu beth am rannu dy angerdd dros y Gymraeg gyda’th gymuned? Wel, Menter Iaith Sir Ddinbych yw’r lle i ti, gan bod gan yr elusen sy’n hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg o fewn...

Dydd Miwsig Cymru 2023

Dydd Miwsig Cymru 2023

Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 10 Chwefror 2023 P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o...

Nadolig yn Ninbych

Nadolig yn Ninbych

Dewch draw i stondin Menter Iaith i greu cerdyn 'Dolig Magi Ann, bathodyn Nadoligaidd ac i helpu i greu murlun cymunedol. Byddwn i fyny grisiau yn y Neuadd gydol y prynhawn.Bydd ymweliadau arbennig gan Magi Ann hefyd rhwng 3 - 6pm. Dewch am hunlun!

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth het bwced

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth het bwced

Fe wnaeth dros 5,400 o blant gymryd rhan yng nghystadleuaeth dylunio het bwced y Mentrau Iaith. Mae’r Mentrau Iaith yn diolch i’r plant i gyd, eu rhieni a’u hysgolion am gystadlu. Dechrau mis Hydref lansiodd y Mentrau Iaith y gystadleuaeth i blant a phobl ifanc dan 18...

Cwpan y Byd Pêl-droed 2022

Cwpan y Byd Pêl-droed 2022

Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni. Caneuon Dafydd Iwan ydy’r ysbrydoliaeth, gyda gweithgareddau ar gyfer pawb ar draws...

Wythnos Elusennau Cymru

Wythnos Elusennau Cymru

Wyddoch chi fod Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen? Ac yn un 'ddibynadwy' hefyd!  Mae 25-29 Tachwedd yn #WythnosElusennauCymru. Ewch ati i gymryd rhan a helpu i gydnabod y gwaith y mae elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn ei...