Bu’n haf prysur iawn gyda’n teithiau cerdded a thywys Cymraeg yn Sir Ddinbych.

Cafodd dysgwyr a siaradwyr rhugl y cyfle i fwynhau’r awyr agored, darganfod hanes a natur ein hardaloedd lleol, a chymdeithasu mewn awyrgylch cyfeillgar. Roedd y teithiau’n ffordd wych o ymarfer y Gymraeg yn naturiol a chwrdd â phobl newydd.

Ganol fis Gorffennaf, aeth criw o ddysgwyr ar daith o dan arweiniad Anne Ellis ar hyd Llwybr Hanes Llangollen ar ddiwrnod braf o haf. Dyma daith gyda golygfeydd arbennig o’r ardal. Cafwyd cyfle i grwydro o amgylch Abaty Glyn y Groes a rhyfeddu ar fawredd yr adeilad a oedd o ddiddordeb mawr i bawb. Yna, parhawyd ar hyd y daith gan gerdded ar hyd y gamlas nôl tuag at y dref.

Y cerddwyr tu allan i Abaty Glyn y Groes

Cerdded i gopa Caer Drewyn oedd y dasg i’r dysgwyr ym mis Awst a’r cyfan o dan arweiniad y tywysydd profiadol Medwyn Williams. Bu’r criw brwdfrydig yn dysgu geirfa newydd gyda chymorth taflen ‘Say it in Cymraeg’ Olion Caer Rufeinig ac yn gwrando’n astud ar wybodaeth helaeth y tywysydd. Braf oedd cael sgwrsio hefyd gyda thîm o wirfoddolwyr a staff Bryniau Dyffryn Clwyd a oedd yn ail deiladu wal gerrig yno. Er nad oedd y tywydd mor braf ag y mae wedi bod, cafwyd amser hwyliog a phaned bendigedig yng Nghaffi Treferwyn ar ddiwedd y daith. Diolch yn fawr i Bartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych am gefnogi.

Cafwyd taith dywys o amgylch Dinbych ar gyfer cerddwyr siaradwyr newydd lle bu cyfle iddynt ddysgu mwy am hanes cyfoethog y dref a chrwydro muriau’r castell. Ar y pnawn arbennig hwnnw, roedd bwrlwm mawr yn y dref gan fod Chris Flamebaster Roberts yn coginio ar y sgwâr ar gyfer cyfres deledu newydd. Dyma ddiwrnod cyffrous iawn ac yn brofiad newydd i’r dysgwyr!

Bu ambell daith yn ystod yr haf yn ardal y Glannau gyda chefnogaeth i griw Llais Prestatyn a’u gwirfoddolwyr. Aeth criw am daith o amgylch Coed y Morfa o dan arweiniad Alwena a cherdded ar hyd glannau o’r Nova at olygfan Talacre oedd eu hanes ym Mehefin. Cafwyd taith hanesyddol o dan arweiniad y tywysydd profiadol Medwyn Williams yn ystod gwyliau’r haf o Drelawnyd i ben tomen neolithic Y Gop.

Braf oedd cael parhau i gydweithio dros fisoedd yr haf gyda chriw Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Menter Iaith Fflint a Wrecsam i gynnal teithiau tywys yn Loggerheads a Minera.

Diolch unwaith eto i’r arweinyddion ac edrychwn ymlaen at deithiau’r Hydref.