Roedd Rhuthun, Llanelwy, Dinbych a Nantglyn yn fwrlwm o brysurdeb Cymraeg dros hanner tymor yr hydref, wrth i bron i 80 o blant fwynhau digwyddiadau creadigol a diwylliannol yn y sir.
Magi Ann yn stori, yn gân ac yn ymweliad
Canu a gwrando ar straeon gyda’r cymeriad annwyl, Magi Ann lenwodd sesiynau yn Llyfrgelloedd Dinbych a Llanelwy wrth i’r dail droi eu lliw y tu allan.
Yn awyrgylch braf a chlyd y llyfrgelloedd, roedd clywed hanes Magi Ann a’i ffrindiau yn y llyfrau sydd wedi eu creu’n benodol ar gyfer plant bach yn dod a’r cymeriadau’n fyw.
A phan ymddangosodd Magi Ann yn y cnawd, roedd nifer o wynebau hapus yn awyddus i ysgwyd llaw a dweud helo.
Bu dawnsio a chanu i gyfeiliant hyfryd yr ukelele, diolch i ddoniau Aled Siôn oedd wedi dod draw i helpu criw Menter Iaith Sir Ddinbych. Ac roedd y plant, y babanod a’r rhieni yn wen o glust i glust wrth i Magi Ann ffarwelio ar ddiwedd prysurdeb y boreau.
Fel arfer, mae pawb yn ddiolchgar am gydweithio hapus staff a Llyfrgelloedd Sir Ddinbych wrth i ni gyd ymroi i gynnig darpariaeth hwyliog a safonol yn y Gymraeg i deuluoedd y sir.
Gwehyddu yn Rhuthun
Gwehyddu oedd yr arlwy yn yr Hen Lys yn Rhuthun i deuluoedd oedd am droi ei llaw at weithdy creadigol dros hanner tymor yr hydref. Diolch i gefnogaeth Cyngor Tref Rhuthun, roedd y gweithdy yn agoriad llygad i nifer oedd erioed wedi profi gwaith llaw gan ddefnyddio helyg o’r blaen.

Eirian Muse oedd y tiwtor wrth y llyw i ni, ac mae’r gwaith o arwain llond stafell o blant a’i rhieni i ddysgu’r grefft o wehyddu trwy gyfrwng y Gymraeg yn glod iddi hi am ei hamynedd a’i harbenigedd.
Cafwyd hwyl garw wrth ddysgu’r grefft a chael ychydig o hanes basgedi helyg a oedd yn hanfodol ar ffermydd Cymru ac mewn cymunedau pysgota flynyddoedd yn ôl. Roeddynt yn cael eu defnyddio i gario tatws a mawn, pysgod a dillad ac roedd yr helygen yn tyfu mewn gwrychoedd a ger afonydd felly’n hawdd cael gafael ar yr wiail.

Sêr hyfryd, calonnau bychain, carw gosgeiddig a physgod bywiog fu pinacl gwaith y gweithdy. Ac roedd gweld y teuluoedd yn gadael y sesiwn gyda’u campweithiau i’w gosod fel addurn naturiol yn eu cartrefi yn hyfryd i’w weld.
Bingo draw yn Nantglyn
Digwyddiad arall llwyddiannus gynhaliwyd ym mhentref Nantglyn ger Dinbych oedd Bingo ar gyfer teuluoedd ac oedolion yr ardal, diolch i glwb cymdeithasol yr ardal. Roedd hi’n braf iawn gweld cymaint o’r gymuned yno yn mwynhau’r cymdeithasu ac yn ennill gwobrau lu! Diolch i Hefin Edwards am ei hwyl yn galw’r bingo ac i Gronfa Wynt Tir Mostyn am eu haelioni tuag at gostau cynnal y noson.

Pwmpenni ac ysbrydion yn yr amgueddfa
Yn ddiweddglo i brysurdeb yr hanner tymor cafwyd prynhawn o hwyl Calan Gaeaf yn Amgueddfa Dinbych yn y dref, diolch i gydweithio rhwng y Fenter a gwirfoddolwyr yr Amgueddfa. Roedd yn rhan o’r arlwy oedd yn nodi Wythnos Amgueddfeydd Cymru.

Cynhaliwyd helfeydd pwmpenni ac ysbrydion gan roi’r cyfle i deuluoedd ddysgu ychydig am eu treftadaeth leol drwy archwilio oriel yr Amgueddfa. Yn ogystal cafodd plant a phobl ifanc gyfle i wneud gwaith crefft a lliwio yn ardal ‘Stiwdio Gee’, gan argraffu gyda theipiadur ac offer a fu unwaith yn gyffredin yng ngweithdy Gwasg Gee, sydd dafliad carreg o’r Amgueddfa.
Mae staff y Fenter yn edrych mlaen at drefnu mwy o weithgareddau i deuluoedd wrth helpu Siôn Corn ar ei daith o gwmpas y sir ym mis Rhagfyr! Cadwch lygad ar Facebook ac Instagram y Fenter i gael clywed mwy am weithgareddau Cymraeg y Nadolig.