Y Gymraeg mewn treftadaeth, celfyddydau a mwyniant yw’r tri gair i ddisgrifio mewnbwn Menter Iaith Sir Ddinbych i benwythnos Drysau Agored Dinbych eleni.

Denwyd dros 100 o bobl a phlant i weithdai Lego yn Nolbelydr, Trefnant a pherfformiadau un dyn, Thomas Pennant, yng ngerddi Evan Pierce, ger Stryd y Dyffryn, Dinbych.

Diolch i gydweithio hapus gyda’r Landmark Trust, cwmni Mewn Cymeriad a Chyngor Tref Dinbych, mae’r Fenter yn falch o’r cyfle i gynnig digwyddiadau Cymraeg wedi eu selio ar dreftadaeth hanesyddol yr ardal.

“Roedd cael nodi 300 mlwyddiant geni Thomas Pennant, un o ffigurau mwyaf nodedig Cymru’r 18fed ganrif, yn ffordd hyfryd o ddenu pobl i Ddinbych.” meddai Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych.

Dolbelydr mewn Lego gyda staff y Fenter a’r plant yn mwynhau

“Fel partner, mae’n braf gallu hyrwyddo a chydweithio gyda grŵp gwirfoddol Drysau Agored i gefnogi a chryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i drigolion yr ardal ac ymwelwyr i Ddrysau Agored y dref.

Roedd Dolbelydr, y tŷ hanesyddol o’r 16eg ganrif yn Nhrefnant lle ysgrifennodd Henry Salesbury y llyfr gramadeg Cymraeg cyntaf, yn fwrlwm o hwyl a sbri yn ystod y penwythnos. Roedd cyfle i’r plant weld yr adeilad, dysgu mwy am bwysigrwydd Dolbelydr fel man geni’r Gymraeg fodern ac ail greu’r tŷ ar ffurf Lego.

Dolbelydr, Trefnant (Landmark Trust) gyda’r bechgyn lleol fu’n mwynhau yn y gweithdy Lego.

“Roedd hi’n brofiad cyntaf i mi ymweld â Dolbelydr,” eglurodd Erin Aled, Swyddog Datblygu Cymunedol Menter Iaith Sir Ddinbych.

“I mi fel oedolyn, roedd hi’n fraint cael bod mewn lleoliad mor bwysig i Gymreictod ein gwlad. Roedd cael rhannu’r bwrlwm a’r brwdfrydedd hynny gyda’r plant yn y gweithdy Lego yn Sir Ddinbych yn ffordd effeithiol iawn o drosglwyddo gwybodaeth hanesyddol bwysig i’r genhedlaeth nesaf mewn ffurf hwyliog.”