Trodd Neuadd y Dref Dinbych yn ofod o sêr a phlanedau ddiwedd Gorffennaf, wrth i Blanetariwm anferth gyrraedd y dref.

Gwelodd bron i 150 o blant a theuluoedd y cytser, miloedd o sêr ac wyth planed mewn pabell aer anferth. Gallai teuluoedd eistedd i brofi’r wefr o wylio’r sêr, planedau, galaethau a thywyllwch awyr y nos yn symud uwch eu pennau, diolch i dechnoleg anhygoel. Roedd yn brofiad arallfydol yn ôl nifer.

Cynllun ar y cyd rhwng Amgueddfa Dinbych, Menter Iaith Sir Ddinbych a thîm Awyr Dywyll Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy oedd y digwyddiad “Syllu ar y Sêr.” Fe’i cynhaliwyd dros ddau ddiwrnod i ddod a rhyfeddod seryddiaeth i fyd plant a phobl ifanc a hynny drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.

“Syniad wreiddiodd o drafodaeth am y seryddwr byd enwog, Isaac Roberts o Groes, ger Dinbych oedd y cynllun. Wrth gynllunio rhaglen o weithgareddau i blant a theuluoedd mae hi wastad yn dda medru codi ymwybyddiaeth am hanes lleol a hanes Cymru wrth chwarae a mwynhau digwyddiadau. Dyma fynd ati i drafod syniadau gyda gwirfoddolwyr Amgueddfa Dinbych a pharatoi i gofnodi dau ganmlwyddiant ei eni yn 2029,” eglura Ruth Williams o Fenter Iaith Sir Ddinbych.

Gwenno Jones fu’n arwain y criw ar y daith drwy’r gofod yn y Planetariwm

Yn ôl Clwyd Wynne, Cadeirydd Amgueddfa Dinbych: “Mae rhannu ein cartref newydd yn y Farchnad Fenyn yn Ninbych â chriw y Fenter Iaith wedi rhoi’r cyfle euraidd ma i ni gydweithio.

“Diolch i nawdd cronfa ‘Places of Science’ gan The Royal Society aethom ati i lunio digwyddiad ar gyfer teuluoedd lle’r oedd modd dysgu a deall mwy am seryddiaeth a hynny mewn ffordd flaengar trwy gydweithio gyda thîm Awyr Dywyll y Dirwedd Genedlaethol lleol.

“Mae olrhain haneswyr lleol a dod a’i bywyd a’i hanes yn fyw, yn bwysig i ni a daeth cyfle arbennig i ni gydweithio gyda Chymdeithas Seryddol Llandyrnog i ddod â’r arbenigaeth seryddol at y bwrdd hefyd.

Yn ôl Gwenno Jones, un o’r criw oedd yn arwain y sesiynau yn y Planetariwm ar ran tîm yr Awyr Dywyll: “Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith da ni’n ei wneud yn golygu cydweithio efo cymunedau a busnesau i’w hannog a’i harwain i leihau llygredd golau. Felly mae cael dod yma i Ddinbych i siarad gyda phlant a’i rhieni am bwysigrwydd llygredd golau ac agor eu llygaid i ryfeddod y gofod a’r bydysawd yn wych.”

Dau frawd o Rhuddlan ddaeth draw i brofi’r digwyddiad oedd Tomos, 13 sy’n mynychu Ysgol Glan Clwyd ac Aled, 8, sy’n mwynhau ei wyliau haf o Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl.

“Roedd gweld manylder y gofod yn y planetariwm yn brofiad cwbl newydd,” eglura Tomos. “Roedd o’n wych ac ron i wrth fy modd cael gweld arwyddion y zodiac yn y sêr oedd yn cyfleu’r anifeiliaid fel y tarw, y pysgodyn a’r arth.

“Os nad oes gen i ddigon o bres i deithio mewn roced i’r gofod, roedd y planetariwm yn ail agos i mi, heddiw!”

Tomos, 13 ac Aled, 8 o Rhuddlan wedi dod i fwynhau dysgu mwy am yr awyr dywyll, y sêr a’r planedau

Yn ôl ei frawd Aled oedd yn edrych mlaen yn arw at fynychu’r planetariwm: “Roedd hwn yn wych, dipyn gwell na’r planetariwm bychan ddaeth i’r ysgol beth amser yn ôl pan gollwyd y cyflenwad trydan! Wnes i fwynhau gweld Sadwrn yn troi o gwmpas y ddaear ac roedd gweld fy arwydd i, Pisces, neu’r pysgodyn, yn uchel yn yr awyr yn uchafbwynt.

Cadwch lygad am fwy o gynlluniau cyffrous dros y dair blynedd nesaf wrth i’r partneriaid gydweithio  i ddod a mwy o gynlluniau cyffrous i’r ardal i ddathlu bywyd y seryddwr, Isaac Roberts, a dynnodd y llun cyntaf o’r Alaeth Andromeda trwy ddyfeisio sustem telesgop â chamera arbenigol nôl yn 1888.