Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Maent yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio.
Mae gan y Mentrau Iaith rwydwaith unigryw o bartneriaid lleol ledled Cymru sy’n cydweithio’n agos i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Yn ogystal â rhwydweithiau’r mentrau iaith rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag amryw o gyrff cenedlaethol a lleol i rannu gwybodaeth, syniadau, profiadau ac adnoddau er mwyn gweithredu er budd y Gymraeg.
Gweler isod restr o’n prif bartneriaid.
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Maent yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio.
Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru yn 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn heddiw mae gan yr Urdd dros 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed.
Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol ac mae'n cael ei gydnabod fel prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol.
Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977.
Mae Cymraeg i Blant yn cynnig cyngor rhad ac am ddim i rieni ar gyflwyno’r Gymraeg o’r Crud
Mae Merched y Wawr yn fudiad sy’n gwneud pob math o bethau! – Coginio, crefftau, ciniawa, teithio, chwaraeon, darlithiau, helpu elusennau, canu, cwisiau a llawer mwy. Prif nod y mudiad yw ymgyrchu dros hawliau’r iaith Gymraeg a hawliau marched.
Mae 4 papur bro yn ardal Sir Ddinbych, adnodd amhrisiadwy mewn cymunedau Cymraeg, sef y Bigwrn, Gadlas, Glannau ar Bedol
Mae Dysgu Cymraeg yn cynnig cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr o bob lefel ym mhob rhan o Gymru.
https://dysgucymraeg.cymru/amdanom-ni/darparwyr-cyrsiau/coleg-cambriapopeth-cymraeg/
CFfI Cymru yw'r mudiad ieuenctid wledig mwyaf yng Nghymru sy’n darparu cyfleoedd i dros 5,000 o aelodau ar draws Gymru, trwy rwydwaith o 12 ffederasiwn sirol a 155 o glybiau, yn cynnwys Clwyd.
Corff annibynnol gyda’r nod o hybu a hwyluso'r defnydd o’r Gymraeg. Gwneir hyn drwy ddwyn sylw i’r ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau.
S4C yw'r unig sianel deledu Cymraeg yn byd. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae'n comisiynu cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i wneud y rhan fwyaf o'i raglenni.
Grŵp ymbarél sydd am ddathlu llwyddiant y Gymraeg yw Dathlu'r Gymraeg ac sy'n galw am gyfres o fesurau cryfion newydd er mwyn sicrhau ei pharhad.
Mae RhAG yn gweithio i wella ac ehangu mynediad at ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.’