Busnes

HELO BLOD

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn golygu llawer mwy na geiriau.

Gyda’n gilydd gallwn ni ddechrau defnyddio bach o Gymraeg yn eich busnes ac awn ni o fyna

HELO BLOD

Helo Blod yw’r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim!

Mae cyngor ar gael ar gyfer helpu gyda :

– Cyfieithu am ddim o destunau hyd at 500 gair y mis – o’r Saesneg i’r Gymraeg

– Gwirio testunau Cymraeg hyd at 1,000 gair y flwyddyn

– Marchnata a hyrwyddo eich busnes i’r gymuned Gymraeg

– Gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid a recriwtio siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg

– Gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn eich busnes ac agor y drws i sgyrsiau a chwsmeriaid newydd

– Eich cyflwyno i rwydweithiau lleol sy’n gallu cefnogi eich busnes

– Eich cyfeirio di at fusnesau yn eich ardal fel bod modd I chi fod yn rhan o rwydwaith o bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn busnes

https://businesswales.gov.wales/heloblod/cy

Cynllun Hapus i Siarad

Cynllun ‘Hapus i Siarad’. Mae’r ymgyrch, sy’n bartneriaeth rhwng Mentrau Iaith a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn cynnig cymorth ac adnoddau i siopau a busnesau bach lle mae aelod o staff yn siarad Cymraeg. Wedi cynllun peilot llwyddiannus yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Fflint a Wrecsam yn gynharach eleni, mae busnesau trwy Gymru gyfan bellach yn cael cyfle i ymuno â’r cynllun ac arddangos poster sy’n dangos eu bod yn ‘hapus i siarad’ Cymraeg â’u cwsmeriaid. Mae’r pecyn adnoddau hefyd yn cynnwys bathodynnau a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder.

Am mwy o wybodaeth am busnesau Sir Ddinbych sydd yn cymryd rhan yn y cynllun:

Busnesau Lleol yn Hapus i groesawu Dysgwyr Cymraeg | Menter Iaith Sir Ddinbych (misirddinbych.cymru)