Amdanom ni
Amdanom Ni
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen gofrestredig sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Sir Ddinbych. Byddwn yn cydweithio â sawl partner a grŵp cymunedol i weithredu ein hamcanion, gyda’r prif nod o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau. Sefydlwyd y Fenter yn 2003 pan esblygodd o’r hen Fenter iaith Dinbych-Conwy.
Cwrdd â'r Tîm
-
Ruth Williams
Prif Swyddog
Mae Ruth wedi gweithio i’r Fenter ers Medi 2013. Yn llawn amser, mae hi’n rheoli’r Fenter o ddydd i ddydd, yn gyfrifol am faterion strategol, marchnata a chyfathrebu. Mae hi hefyd yn arwain ar ambell i weithgaredd cymunedol.
-
Gwion Tomos-Jones
Swyddog Datblygu Cymunedol
Mae Gwion wedi gweithio i’r Fenter, yn llawn amser, ers Hydref 2013. Mae prif feysydd gwaith Gwion yn ymwneud â chyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
-
Iorwen Jones
Swyddog Cyllid a Busnes
Mae Iorwen wedi gweithio i’r Fenter ers Ebrill 2004. Yn gweithio 30 awr yr wythnos, mae hi’n gyfrifol am weinyddiaeth a chyllid y Fenter ac yn cefnogi peth o’n gwaith cymunedol.
-
Nia Morris
Swyddog Prosiect Helo Blod
Nodir hefyd bod Nia Morris, swyddog prosiect Helo Blod, wedi’i chyflogi dan gynllun Mentrau Iaith Cymru trwy Menter Iaith Conwy, a’i bod yn cefnogi busnesau bach yn Sir Ddinbych a Chonwy. Mae Nia yn gweithio’n rhannol allan o swyddfa Menter Iaith Sir Ddinbych.