Wrth i’r ysgolion gau am egwyl hir yr haf, bydd rhieni, neiniau, teidiau a gwarcheidwyr yn siŵr o fod yn chwilio am syniadau i ddiddanu’u plant. Yma yn sir Ddinbych, mae’r Fenter Iaith yn cydweithio gyda phartneriaid i gynnal, cefnogi ac hyrwyddo gweithgareddau Cymraeg neu ddwyieithog, a dyma rhai sydd ar y gweill ar hyn o bryd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi:
Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf
Bonansa Bywyd Gwyllt, diwrnod i deuluoedd yng nghanolfan Llyn Brenig. Bydd swyddogion y Fenter a Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) hefyd yn bresennol ar faes Eisteddfod Llangollen ar y diwrnod hwn.
Dydd Mercher 21 Gorffennaf
Bydd taith gerdded o amgylch ardal Llangollen dan arweiniad Anne Ellis lle bydd cyfle i ymhyfrydu yr ardal wrth gerdded ar hyd y lôn werdd a disgyn at Abaty Glyn y Groes islaw a rhyfeddu ar ei hanes. Dyma daith raddfa ganolig a byddwn yn dilyn y gamlas yn ôl i’r dref cyn cael phaned a sgwrs. Croeso cynnes i bawb!
Dydd Mercher a dydd Iau 29-30 Gorffennaf
Ymunwch â Thîm y Dirwedd Cenedlaethol yn eu Planetariwm yn nigwyddiad Syllu ar y Sêr, yn Neuadd y Dref, Dinbych. Dewch i archwilio awyr y nos, hedfan i blanedau, gweld y Llwybr Llaethog, gweld Cytser mewn golau newydd a dysgu am bwysigrwydd amddiffyn ein hawyr dywyll werthfawr. Trwy gydweithrediad Amgueddfa Dinbych a’r Fenter Iaith, fe ddaw’r ‘planetariwm’ arbennig â’r awyr dywyll a’i holl ogoniant draw i Ddinbych wrth gychwyn ar dair mlynedd o baratoi at nodi dau canmlwyddiant geni y seryddwr byd enwog, Isaac Roberts, a anwyd ar fferm Groes Bach ger Dinbych. Bydd mynediad i’r digwyddiad am ddim, diolch i nawdd gan y Gymdeithas Brenhinol a digwyddiad sy’n addas i bob oed ond mae gofyn cysylltu â’r Fenter o flaen llaw gan y bydd llefydd yn y planetariwm yn gyfyngedig. E.bostiwch menter@misirddinbych.cymru neu ffoniwch 01745 812822 i gadw lle.
Dydd Mawrth 4 Awst rhwng 10yb – 2yh
Cynhelir gweithgareddau i blant a theuluoedd ar Gae Howell, gyda sefydliadau megis Hwb Dinbych, gwasanaethau hamdden ac ieuenctid y sir a bydd Menter Iaith yno gyda’r cymeriad hoffus, Magi Ann a gweithgareddau eraill. Bydd y digwyddiad yn dod â phartneriaid, teuluoedd a phobl ifanc ynghyd i ddathlu a hyrwyddo’r gwasanaethau a’r prosiectau cymunedol sydd ar gael yn Ninbych. Beth am bicied draw am awr neu ddwy?
Dyddiau Mawrth 11, 18 a 25 Awst
Dewch draw i Lyn Brenig ar gyfer gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg i blant 8-15 oed, a fydd yn cynnwys caiacio, padlfyrddio, beicio, cerdded a gemau. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal gan Fentrau Iaith Dinbych a Chonwy diolch i gefnogaeth cronfa ‘Gwaddol Rhydgaled’. Mae angen archebu lle o flaen llaw ar gyfer y sesiynau hyn trwy Menter Iaith Sir Ddinbych. Ffoniwch am y wybodaeth llawn, 01745 812822 neu e.bostiwch menter@misirddinbych.cymru
Dyddiau Mercher 12 a 19 Awst
Bydd gweithdai blasu Academi Berfformio yn Neuadd y Plwyf, Groes, ger Dinbych. Sesiynau dwy awr fydd y rhain, i roi blas ar berfformio amrywiol, gyda’r bwriad o gychwyn cyfres llawn o’r Academi yn yr hydref. Arweinir y gweithdai gan Ianto Elwy, yntau yn athro cynradd ac yn aelod o’r band poblogaidd TewTewTennau. Addas i blant oed cynradd. Cefnogir y gweithdai hyn gan gronfa Gwaddol Rhydgaled a phrosiect Hiraethog Mentrau Iaith Conwy a Dinbych. Mae gofyn archebu lle cyn gynted â phosib – eto cysylltwch â swyddfa’r Fenter trwy e.bostio menter@misirddinbych.cymru neu 01745 812822.
Dydd Sadwrn 19 a 20 Medi
Fel rhan o benwythnos Drysau Agored, bydd y Fenter Iaith yn dychwelyd i Ddolbelydr (rhwng Trefnant a Henllan) i gynnal gweithdai Lego i blant – yn rhoi cyfle i ddod i nabod cartref 16eg ganrif Henry Salesbury, y gŵr a greodd y geiriadur cyntaf i nodi gramadeg ffurfiol y Gymraeg ynddi. Cyfle i rieni, neiniau a theidiau ymweld â’r tŷ hyfryd sydd bellach dan ofal y Landmark Trust, tra bod plant yn mwynhau chwarae ac adeiladu dan ofal Erin a Gwenno o’r Fenter Iaith.
Eto fel rhan o benwythnos Drysau Agored, bydd sioe newydd gan gwmni Mewn Cymeriad yn cael ei lwyfannu fel rhan ddathliadau 300 mlwyddiant y naturiaethwr a theithiwr, Thomas Pennant.
Cadwch olwg ar dudalennau Facebook ac Instagram Menter Iaith Sir Ddinbych neu chwiliwch am eu gwefan. Mae posteri a gwybodaeth hefyd ar gael yn y Llyfrgell a Siop Clwyd.