Gydag Wythnos Ymddiriedolwyr newydd basio (9 i 13 o Dachwedd), daeth cyfle i ni ym Menter Iaith Sir Ddinbych gydnabod gwaith ein 13 o ymddiriedolwyr sy’n llywio’r llong yma fel elusen gofrestredig ddi-elw.

Fel sefydliad sy’n annog cymdeithasau, mentrau a sefydliadau i wneud defnydd o’r Gymraeg yn eu gwaith a’u bywydau o ddydd i ddydd, roedd hi’n amserol i ni nodi pwysigrwydd yr ymddiriedolwyr sydd gennym ni’n cyfrannu at ein gwaith. Wrth reswm, mae tynnu ar eu profiadau o fewn eu meysydd gwahanol yn hollbwysig wrth gynnig cyfeiriad a throsolwg o lywodraethiant y Fenter.

Boed yn addysgwyr, cyfreithwyr, cyfrifwyr, ieithwyr, arbenigwyr technoleg gwybodaeth, arweinyddiono a chyfrarwyddwyr o fewn eu meysydd proffesiynol – mae’r ffaith mai siaradwyr neu ddysgwyr y Gymraeg ydynt yn eu huno yn y gwaith o fod yn llysgenhadon cadarn dros y Gymraeg yma’n sir Ddinbych.

Yn ôl Prif Swyddog Iaith y Fenter, Ruth Williams: “Rhaid i ni gydnabod mai roliau gwirfoddol llwyr yw rol ymddiriedolwyr yma yn y Fenter. Mae’r mwyafrif o’n haelodau yn bobl broffesiynol prysur, yn aml yn jyglo pwysau teuluol ac yn ceisio taro’r balans cywir ar eu hamser hamdden.

“Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn gyfle i ni ddiolch o waelod calon iddynt am eu hamynedd, eu cefnogaeth, eu hanogaeth a’u hamser wrth ymroi i’r gwaith o lysgenhadu dros y Gymraeg yn Sir Ddinbych.

Bethan Cartwright, Cadeirydd Menter Iaith Sir Ddinbych yn ystod cyfarfod blynyddol y Fenter eleni

“Mae nifer ohonynt ar ben arall y ffôn os oes angen ail farn, yn glust i wrando ac yn cynnig cymorth ymarferol, yn aml. Ac i ni fel tîm bychan o staff, mae’r gefnogaeth honno yn hanfodol bwysig.”

Gyda chyfnod y pwyllgor blynyddol newydd ei gwblhau, a’r tîm wedi cadarnhau’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn yn ogystal a chadarnhau blaenoriaethau gwaith – mae ein diolch yn fawr i’r ymddiriedolwyr am eu cefnogaeth cadarn.