Dathlu Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr 2026
Wyddoch chi bod Menter Iaith Sir Ddinbych yn ddibynnol iawn ar wirfoddolwyr? Fel elusen gofrestredig, mae’r staff yn ddiolchgar iawn o gefnogaeth aelodau’r Bwrdd a gwirfoddolwyr sy’n eu cefnogi wrth gynnal gweithgareddau o fewn y sir.
Un o’r rheiny yw Elin Batty, 31, o Lansannan ger Dinbych. Dechreuodd Elin wirfoddoli gyda’r Fenter ddwy flynedd yn ôl ac ers hynny, mae wedi dod yn wirfoddolwraig gyson.

“Dwi’n mwynhau’n ofnadwy gyda staff y Fenter,” eglura Elin sy’n hoff o amrywiaeth y gwaith ac yn mwynhau dysgu sgiliau newydd.
“Mae’n agoriad llygad gweld yr holl waith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni. Dwi’n falch iawn o allu helpu, cael mynd i ardaloedd gwahanol i gefnogi gyda digwyddiadau a dwi wrth fy modd yn helpu yn y sesiynau Magi Ann.”
Mae Elin wedi hen arfer gwirfoddoli gan ei bod hi hefyd yn wyneb cyfarwydd yn siop ail-lenwi gymunedol a chynnyrch masnach deg, y Tŷ Gwyrdd yn Ninbych. Mae hi hefyd yn brysur yn cynorthwyo busnes y teulu sy’n cynhyrchu siytni a jam gan ddefnyddio cynnyrch tymhorol yn Llansannan ‘Mewn Picil.’
“Wrth i ni nodi Wythnos Gwirfoddolwyr a diolch iddynt am eu cyfraniad, rydym fel Menter yn talu gwrogaeth i’n gwirfoddolwyr am eu hymroddiad cyson â ni,” meddai Ruth Williams, Menter Iaith Sir Ddinbych.
“Mae gennym dîm bychan o staff gwych ac mae cael y criw gwirfoddoli yn cydweithio â ni yn sicrhau ein bod ni’n cynnig darpariaeth bellach i’n cymunedau a mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith. Mae’r cyfuniad sydd gennym yn y tîm yn sicrhau ein bod yn gallu cynnig profiadau gwerthfawr i drigolion yn y Gymraeg.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r Fenter, yn gyson neu’n achlysurol, cysylltwch â Ruth ar 01745 812822 neu ruth@misirddinbych.cymru am fwy o ddiddordeb.