Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae 2024, mae swyddogion Menter Iaith Sir Ddinbych wedi bod yn ymweld â rhai busnesau lleol er mwyn eu hannog i ymuno â chynllun ‘Hapus i Siarad’.

Mae’r ymgyrch, sy’n bartneriaeth rhwng Mentrau Iaith a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn cynnig cymorth ac adnoddau i siopau a busnesau bach lle mae aelod o staff yn siarad Cymraeg. Wedi cynllun peilot llwyddiannus yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Fflint a Wrecsam yn gynharach eleni, mae busnesau trwy Gymru gyfan bellach yn cael cyfle i ymuno â’r cynllun ac arddangos poster sy’n dangos eu bod yn ‘hapus i siarad’ Cymraeg â’u cwsmeriaid. Mae’r pecyn adnoddau hefyd yn cynnwys bathodynnau a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. 

Mae dysgwyr, sy’n dilyn cyrsiau gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi derbyn cardiau er mwyn casglu stampiau wrth sgwrsio yn Gymraeg gyda staff. Bydd y rhai sy’n llenwi’r cerdyn a’i ddychwelyd at eu tiwtoriaid cyn diwedd mis Mawrth 2025 yn cael cyfle i ennill penwythnos preswyl i ymarfer neu wella eu Cymraeg.

Pwy sy’n ‘Hapus i Siarad’ yn ein hardal ni?

Dyma rhai busnesau sydd wedi ymrwymo i’r ymgyrch hyd yma:

Os ydych yn fusnes sydd ag awydd cofrestru hefo ni fel un sy’n croesawu dysgwyr Cymraeg, cysylltwch â menter@misirddinbych.cymru 

Os ydych yn ddysgwr Cymraeg, a’ch bod chi heb dderbyn ‘cerdyn casglu’ eto, holwch eich tiwtor, neu gyrrwch ymholiad at menter@misirddinbych.cymru 

Mwy o wybodaeth i fusnesau am gynllun Hapus i Siarad 

>>> http://www.shwmae.cymru/wp-content/uploads/2024/09/Terfynol_Pecyn_Hapus_i_Siarad2024_busnesau-1.pdf