Efallai bod chi’n gwybod popeth am hanes Rhuthun wrth i chi gerdded fyny a lawr strydoedd y dref, ond daeth unigolion a grwpiau i ddysgu mwy yn ddiweddar. Cafodd y teithiau eu trefnu gan Fenter Iaith Sir Ddinbych gyda nawdd gronfa Cymunedol Llys Awelon, Grŵp Cynefin a Read Construction.
Yn ystod y teithiau, a gynhaliwyd ar 28 a 29 Medi, ymwelwyd â nifer o safleoedd hanesyddol, gan gynnwys hen reilffordd Rhuthun, Y Castell, Sgwâr Sant Pedr a’r Eglwys gyfagos. Roedd Medwyn Williams, tywysydd bathodyn lâs yn cyflwyno gwybodaeth fanwl am y lleoedd hyn, gan drafod eu pwysigrwydd yn hanes y dref a’u rôl yn y gymuned.

Roedd y mynychwyr yn llawn canmoliaeth i’r teithiau, hefo un unigolyn yn nodi “Wnes I fwynhau’r profiad yn fawr. Arweinydd gofalgar a llawn gwybodaeth, neis bod o yn addas i blant hefyd!”
Dywedodd Iorwen Jones o’r Fenter Iaith, “Roedd y daith hon yn gyfle gwych i siaradwyr Cymraeg newydd ddysgu am eu treftadaeth a phwysigrwydd eu lle yn y gymdeithas a dod i nabod pobl newydd.”

Cynhaliwyd gweithdai celf a chrefft ar y ddau brynhawn, lle cafwyd cyfle i arddangos creadigrwydd wrth ddysgu am adeiladau a hanes y dref. Cynhaliwyd gweithdai creu murlun a gweithdai stampiau gyda’r artistiaid Cathryn Griffith a Donna Jones yn tynnu sylw at nodweddion hanesyddol ac unigryw’r dref.
Dywedodd Gwion Tomos-Jones o Fenter Iaith Sir Ddinbych “Roedd y gweithdai’n ategu’r profiad o ddysgu am hanes y dref a’r hyn sydd i weld os ydi rhywun yn edrych yn ofalus. Y gobaith yw bod pobl yn mynd i edrych ar rhai o’r adeiladau ar draws y dref yn wahanol oherwydd yr hyn maent wedi dysgu.”

Yn dilyn y gweithdai celf, dywedodd un rhiant “Roedd fy merch a minnau wedi mwynhau’r prynhawn. Roedd hyd y gweithdy yn addas i ni, hefo llawer o gyfryngau gwahanol a oedd yn llawer o hwyl ac fe wnaethom roi cynnig ar bob un ohonynt.”
I gael gwybod mwy am weithgareddau Cymraeg yn lleol, dilynwch Menter Iaith Sir Ddinbych ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ewch i www.misirddinbych.cymru