Mae 15 o drigolion ardal Dyffryn Clwyd wedi elwa a mwynhau sesiynau ‘Lluosi’ diolch i waith Menter Iaith Sir Ddinbych dros y misoedd diwethaf.
Bwriad y cynllun oedd ‘lluosi’ gallu a sgiliau rhifedd oedolion, trwy ddarparu chwech o sesiynau a sesiwn blasu oedd yn cynnig sgiliau mathemateg i ddatblygu hyder oedolion, mewn ffordd hwyliog, ymarferol a digidol, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Arbenigwyr yn y maes
Diolch i waith tiwtoriaid arbenigol yn y maes, Ifor Jones o Ddinbych a Bethan Cartwright o Lansannan, llwyddwyd i gynnig gweithdai ymarferol oedd yn cynnig elfennau cryf o gydweithio, cymdeithasu ac ennyn hyder unigolion i herio eu gallu eu hunain ym maes rhifedd a mathemateg.
Yn ôl Ruth Williams, Menter Iaith Sir Ddinbych: “Roedd hi’n sialens i ni greu gweithdai ymarferol fyddai’n chwalu’r stereoteip sydd gan nifer ohonom o ganlyniad i brofiadau negyddol o ddysgu mathemateg yn yr ysgol, flynyddoedd yn ôl.
Codi hyder
“I eraill codi hyder ar gyfer y gweithlu oedd yr ysgogiad i ymuno â ni. Ac wrth i ni, fel Menter, gydweithio gydag arbenigwyr profiadol yn y maes, llwyddwyd i greu modiwlau diddorol oedd yn ysgogi diddordeb, yn tynnu o hanes a diwylliant yr ardal a chynnig geirfa mathemategol yn y Gymraeg.”
Ariannwyd ‘Lluosi’ diolch i gefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Gwirfoddol Sir Ddinbych. Cynhaliwyd y sesiynau gyda’r nosau ac yn ystod y dydd, er mwyn cynnig y cyfle i drawsdoriad o bobl allu mynychu, yn Hwb Dinbych.
Mynychwyr
Yn ôl Elin, 30 o Lansannan: “Dwi wedi dysgu lot. Mae’n gwbl wahanol i unrhywbeth dwi wedi ei wneud o’r blaen. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Mae’r sesiynau wedi gwneud i mi feddwl am fathemateg yn wahanol. Rydan ni wedi bod yn creu pethau, mesur a chreu siâp fy mhen fy hun allan o bapur, deall mwy am hyd a lled fy nghorff drwy greu amlinelliad o mraich a thynnu ffotograff o fy hun gan fesur fy nhaldra. A dwi wedi dysgu sut i ddefnyddio’r ipad a mesur pethau yn electroneg. Dwi wedi mwynhau!”
Mae Eleri o Ddinbych, hefyd wedi elwa llawer o’r sesiynau: “Mae wedi bod yn dipyn o hwyl! A dwi wrth fy modd o fod wedi dod i adnabod pobl newydd a chymdeithasu. Mae wedi codi fy hyder a’m sgiliau. Ac mae wedi gwneud i mi sylweddoli cymaint mae pethau wedi newid ers i mi fod yn yr ysgol.”
I Iona o Ddinbych sy’n mwynhau nifer o gyrsiau a sesiynau gwaith llaw: “Mae’r sesiynau yn grêt! Mae wedi dangos imi sut i ddefnyddio technoleg a sut i wneud gwaith rhifo a mesur yn electroneg. Dwi erioed wedi defnyddio ipad o’r blaen. Mae’r gwaith mathemateg wedi bod yn andros o ddiddorol, a dwi wedi gorfod dysgu i fesur mewn centimedrau yn lle modfeddi! Doeddwn i ddim yn mwynhau mathemateg yn yr ysgol ond mae hwn wedi bod yn agoriad llygad a dwi wirioneddol wedi mwynhau’r profiad.”
Yn ôl Ruth Williams o’r Fenter: “Diolch i’r cynllun yma, rydym wedi llwyddo i greu adnodd arbennig a fydd o ddefnydd i ni eto’n y dyfodol. Heb os, mae’r gwaith wedi bod yn fuddiol ac yn fanteisiol i’r criw wrth wella sgiliau, rhannu profiad, cymdeithasu a’r cyfan drwy’r Gymraeg. Diolch i bawb am y gefnogaeth.”
Am fwy o wybodaeth am waith y Fenter, cysylltwch â menter@misirddinbych.cymru 01745 812822, neu dilynwch Menter Iaith Sir Ddinbych ar facebook.