Dros y misoedd diwethaf, mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn gweithio ar gynllun i foderneiddio a chynyddu capasiti’r elusen, sy’n creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg o fewn y sir.

“Tîm bychan o staff sy’n cyflawni llawer ydyn ni,” meddai Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych, “ac mae bob clod am lwyddiannau’r Fenter yn mynd i’n staff gwych sydd wastad yn mynd y filltir ychwanegol.”

“Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn chwilio am gyfleoedd i adnabod gwirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn gwahanol feysydd i’n cefnogi ni i wella’n capasiti. Y bwriad yw gallu cynnig mwy o gefnogaeth i’n cymunedau sy’n awyddus i hyrwyddo gweithgareddau yn y Gymraeg.

Un o’r gwirfoddolwyr sydd wedi cydweithio’n agor gyda’r Fenter dros y misoedd diwethaf yw Delyth Williams o Ddyserth, Sir Ddinbych. Wedi symud yn ôl i’r ardal i fyw yn y blynyddoedd diwethaf, sylwodd ar y dirywiad yn y gweithgareddau cymunedol Cymraeg eu hiaith oedd yn digwydd yn y dref. Deallodd bod y Fenter yn chwilio am wirfoddolwyr i gydweithio â nhw, felly cysylltodd â dangos diddordeb.

Wedi sgyrsiau, cyfarfodydd a chasglu mwy o wirfoddolwyr lleol, mae Cymdeithas Gymraeg Dyserth wedi elwa o sgiliau proffesiynol y Fenter i greu pwyllgor, cyfansoddiad a sefydlu gweithgareddau yn y dref trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Un o’r digwyddiadau llwyddiannus yn Nyserth yw’r sesiwn Paned a Sgwrs sy’n annog siaradwyr newydd a Chymry Cymraeg i ddod at ei gilydd yn fisol i ymarfer eu Cymraeg. Mae’r diolch mwyaf i Delyth a’r criw sy’n gweithio’n ddygn i ddenu diddordeb ac annog unigolion sydd â diddordeb i ail afael yn eu Cymreictod neu i ddechrau dysgu o’r newydd.” meddai Ruth Williams.

“Rydyn ni’n mwynhau yn arw,” eglura Delyth, “ac mae’n hyfryd gallu cynnig rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Mae Dyserth yn bentref braf, agos atoch, ac mae hi mor braf gallu cynnig gweithgareddau i bobl yn eu mamiaith ac i siaradwyr newydd hefyd. Erbyn hyn, mae gennym ni 20 o bobl yn mynychu yn fisol, felly rydyn ni wrth ein boddau.”

Pentref arall sy’n cynnal sesiynau tebyg yn fisol ydi cymuned Tremeirchion ger Llanelwy. Dwy sy’n brysur yn gweithio yn y gymuned honno, diolch i gefnogaeth y Fenter, yw Gwyneth Littler Jones a Phyllis Bryer, y ddwy yn byw yn Nhremeirchion.

“Cychwynnon ni’r sesiynau Paned a Sgwrs yn ein tafarn gymunedol yn y pentref, y Salusbury Arms rhai misoedd yn ôl. Wedi noson o gerddoriaeth yn y dafarn, daeth dau neu dri atai a holi a fyddwn i’n fodlon eu helpu i sefydlu sesiwn i ddysgwyr, oherwydd fy mod i’n athrawes wedi ymddeol. 

“Mae Ruth a’r tîm ym Menter Iaith Dinbych wedi bod yn wych yn dod a syniadau i Phyllis a minnau, a’n cynorthwyo i dynnu pobl i mewn a chynnig arweiniad i ni am y ffordd orau o hyrwyddo’r digwyddiad. Mae’n mynd o nerth i nerth yn y Salusbury Arms gyda dros 25 yn mynychu yn fisol!”

Elfen arall o waith y Fenter i gynyddu gwytnwch a chynaliadwyedd y sefydliad oedd moderneiddio sustemau mewnol yr elusen.

Dros y misoedd diwethaf mae’r staff wedi bod yn gweithio ar wella eu ffyrdd o werthu tocynnau digwyddiadau trwy gynnig y gwasanaeth i’w cwsmeriaid trwy ddarllenydd cardiau digidol. Mae gwaith hefyd wedi bod yn digwydd i fuddsoddi yn eu system gyllido er mwyn gwella effeithiolrwydd y tîm a chynnig hyfforddiant priodol iddynt.

“Erbyn hyn, rydym yn defnyddio sustem ddigidol i reoli ein cyllideb sydd wedi hwyluso’n gwaith yn arw. Yr un modd gyda’n gwaith marchnata, rydym wedi buddsoddi yn ein deunyddiau marchnata ac wedi diweddaru’n gwefan, fel bod modd dod o hyd i wybodaeth a’n gwasanaethau yn fwy rhwydd.”

Ariannwyd y cynllun moderneiddio a chynyddu capasiti Menter Iaith Sir Ddinbych gan Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Chyngor Sir Ddinbych trwy law Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â menter@misirddinbych.cymru 01745 812822, neu dilynwch Menter Iaith Sir Ddinbych ar facebook.