Rhisiart Arwel:
Yn enedigol o Ddinbych, treuliodd Rhisiart ei blentyndod ym mhentref Garnswllt yn Nyffryn Aman a’i lencyndod yn nhre Corwen yn yr hen sir Feirionydd. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol y Berwyn y Bala a dechreuodd gael gwersi gitâr yn ei arddegau cynnar gyda John Aran. Aeth ymlaen i astudio’r gitâr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd (RNCM) ym Manceinion gyda John Aran a Gordon Crosskey ac ar ôl gorffen ei astudiaethau, dychwelodd i Gymru i ddechrau ei yrfa fel cerddor proffesiynol. Yn ddiweddarach, derbyniodd Rhisiart ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i astudio ymhellach ym Madrid gyda Ricardo Iznaola ac yn Llundain gyda John Duarte.
Mae Rhisiart wedi perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys ymddangosiad yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, ac mae wedi perfformio’n gyson ar y radio a’r teledu.
Bu Rhisiart yn gweithio fel tiwtor gitâr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ac mae hefyd wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar fwy nag un achlysur mewn consiertos gan Vivaldi a Rodrigo.
Fel rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia yn 2015, trefnodd Rhisiart gyfres o gyngherddau ar draws Cymru a’r Wladfa. Yn ystod y daith, perfformiodd gerddoriaeth o Gymru a De America a bu’n cydweithio gyda nifer o gerddorion blaenllaw o Gymru a’r Ariannin.
Mae rhaglen Rhisiart yn cynnwys cerddoriaeth o bob rhan o’r byd – gyda phwyslais arbennig ar gerddoriaeth o Gymru. Sbaen a De America. Mae ei berthynas agos â’r Ariannin yn cael ei adlewyrchu gydag esiamplau o weithiau sawl cyfansoddwr Archentaidd megis Ariel Ramirez, Abel Fleury a Jorge Cardoso.
Mae Rhisiart wedi cyfansoddi a threfnu nifer fawr o ddarnau ar gyfer y gitâr, ac ar ei gryno ddisgiau ‘Etifeddiaeth’ (2018) ac ‘Encil’ (2021) mae nifer o esiamplau o’i waith, ynghŷd â detholiad o gerddoriaeth poblogaidd ar gyfer y gitâr o bob ran o’r byd.