Dydd Sadwrn 15fed o Hydref, daeth siaradwyr newydd y Gymraeg am dro i’r Farchnad Fenyn yn Ninbych ar gyfer Bore Hapus i Siarad.

Mewn cydweithrediad â Chanolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a Mentrau Iaith, cafwyd ail rownd y cynllun ‘Hapus i Siarad’ ar gyfer 2025–26.

Bwriad yr ymgyrch yw cynnig cyfle i ddysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn naturiol yn eu cymunedau gyda busnesau bach sy’n Hapus i Siarad. Roedd Dinbych yn un o’r naw tref a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun eleni.

Cafwyd bore hwyliog gyda’r dysgwyr. Wedi iddynt gyrraedd roedd cyfle iddynt gael paned a chacennau tra bod staff y Fenter yn croesawu pawb i’r Farchnad Fenyn. Cafwyd sgwrs cyntaf y dydd gan Clwyd Wynne, Cadeirydd a gwirfoddolwr Amgueddfa Dinbych am bwysigrwydd y Gymraeg wrth weithio yn yr Ysbyty meddwl yn Ninbych. Awgrymodd fod ymuno â chôr yn ffordd dda a hwyliog o ddysgu Cymraeg.

Cafodd y dysgwyr gyfle ymweld â llawr gwaelod y Farchnad Fenyn i ddysgu am hanes Gwasg Gee o dan arweiniad Medwyn Williams, un o wirfoddolwr Amgueddfa Dinbych. Roedd modd iddynt ddefnyddio offer gwreiddiol Gwasg Gee drwy argraffu matiau paned ‘Hapus i Siarad Cymraeg’.

O dan arweiniad Ruth Williams, sydd hefyd yn un o dywyswyr tref Dinbych, aeth.y criw ar daith dywys o amgylch canol hen dref farchnad Dinbych gan ddysgu mwy am safleoedd pwysig y dref. Roedd cyfle iddynt wedyn grwydro’r dref gan fynd i ymweld â busnesau a oedd yn cynnig gwasanaethau Cymraeg yno.

Diolch yn fawr iawn i Amgueddfa Dinbych am y cyfle i gydweithio wrth groesawu siaradwyr Cymraeg newydd i Ddinbych.

Dywedodd Eirian Wyn Conlon, Cydlynydd Prosiect Hapus i Siarad o ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg, “Diolch yn fawr i’r Fenter am ddarparu bore gwych yn Ninbych. Mi gafodd pawb oedd yna brofiad cadarnhaol, digonedd o amrywiaeth a chyfle da i sgwrsio. A chacennau penigamp cyn mynd allan i grwydro’r dre efo eu mapiau.”

Diolch i’r busnesau a’r sefydliadau sy’n amlygu’r Gymraeg yn nhref Dinbych. Mae cynyddu defnydd y Gymraeg yn y defnydd yn hollbwysig ac yn rhoi y cyfle i siaradwyr newydd i ymarfer eu Cymraeg.