A hithau’n wythnos elusennau Cymru, 9 i 13 o Chwefror, mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn paratoi ar gyfer wythnos brysur yn hyrwyddo’r Gymraeg ledled y sir.

Ymysg y gweithgareddau mae’r Fenter, sy’n elusen ei hun, yn gweithio arnynt yr wythnos hon mae:

  • Paned a Sgwrs i ddysgwyr newydd yn Nantglyn
  • trafodaethau a threfniadau gyda swyddogion Gŵyl Rhuthun
  • cefnogaeth a thrafodaethau gydag Amgueddfa Dinbych a Drysau Agored Dinbych
  • Dysgwyr ar daith Dywys yn Llangollen
  • paratoadau olaf gig Lleuwen yng Ngwesty Owain Glyndŵr, Corwen
  • gweithdy Lego yn Hwb Pengwern a Llyfrgell Llangollen
  • trefniadau Addurno Ffenestri Dydd Gŵyl Ddewi gyda busnesau’r sir
  • trefniadau Gorymdaith Ysgolion ardal Dinbych i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi.

“Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, fel elusen, yn amrywiol iawn, ac yn aml, mae pobl yn anghofio mai elusen gofrestredig ydy’r Fenter Iaith ei hun,” eglura Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych.

“Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi ein cymeradwyo gyda marc safon NCVO Elusen Ddibynadwy sy’n farc nod i elusennau ledled Prydain. Fel tîm bychan o staff rydyn ni’n ddibynnol iawn ar wirfoddolwyr ac mae sicrhau ein bod yn cynnal safon yn ein gwaith fel elusen, yn hollbwysig.

Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Menter Iaith Sir Ddinbych, Bethan Cartwright: “Rydyn ni’n ddiolchgar i’n prif arianwyr a’n partneriaid am ymddiried ynom i gyflawni ein gwaith o gynnig cyfleoedd i drigolion Sir Ddinbych fwynhau byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac ni fyddai modd i ni gyflawni’r rôl honno heb ein staff diwyd a’r gwirfoddolwyr sy’n cydweithio â ni fel aelodau Bwrdd, cyfranwyr a chefnogwyr mewn digwyddiadau. Diolch o galon iddynt.

“Y tîm cyfan sy’n cyflawni ac ar wythnos elusennau Cymru, mae’n glod i’r tîm bychan o staff am ein harwain ni i gyflawni cymaint yn y Gymraeg a chynnig cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau.”

Dysgwyr Bore Hapus i Siarad o flaen y Farchnad Fenyn

Yn ystod 2024-2025 cynhaliodd Menter Iaith Sir Ddinbych dros 50 o ddigwyddiadau i bobl ifanc a chael cyswllt gyda dros 2000 o oedolion. Mae gwaith y Fenter dros y cyfnod wedi cyrraedd bron i 1400 o blant a threfnwyd dros 100 o ddigwyddiadau ar gyfer oedolion dros y flwyddyn.

Yn ôl Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych, Ruth Williams: “Mae ‘na gynlluniau wedi eu cadarnhau am gyllid ariannol prosiect newydd sy’n ehangu’r ddarpariaeth sydd gennym yn hyrwyddo’r Gymraeg yn ardal y glannau, trefi’r Rhyl, Prestatyn a Rhuddlan.

“Rydym bellach wedi ymgartrefu yn Y Farchnad Fenyn, yn Ninbych sy’n lleoliad gwerth chweil mewn awyrgylch fodern gydag adnoddau’r unfed ganrif ar hugain. Ac mae ein gwaith o fewn cymunedau Sir Ddinbych, yn hyrwyddo’r Gymraeg, yn cefnogi sefydliadau, yn trefnu digwyddiadau ac yn gwneud ein gorau i wella’r cyfleoedd ledled y sir i ddefnyddio’r Gymraeg yn parhau. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, cysylltwch ar bob cyfri.”

Am wybodaeth lawn dilynwch y  Fenter  ar Facebook, Bluesky, Instagram.