Mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio gyda gwirfoddolwyr mewn cymunedau ledled y sir i greu cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg ymarfer eu sgiliau llafar tra’n cymdeithasu dros baned neu wrth fynd am dro.
O Brestatyn i Bentredŵr, mae bellach dros 100 o siaradwyr Cymraeg newydd wedi ymuno mewn sgyrsiau er mwyn ymarfer a datblygu hyder, diolch i gydweithrediad gwirfoddolwyr, tiwtoriaid Popeth Cymraeg, staff y Fenter a chefnogaeth rhai cynghorau tref a llyfrgelloedd.
Ceir rhai sesiynau ymarfer dros beint yn hytrach na phaned! Mae criw da o siaradwyr Cymraeg hen a newydd yn dod at ei gilydd bob nos Fercher yn nhafarn yr Halcyon Quest ym Mhrestatyn, a rhai ohonynt hefyd wedi cychwyn cyfarfod ar nos Fawrth cynta’r mis i drafod llyfrau Cymraeg.
Ym mis Chwefror, cafwyd prynhawn arbennig i ddysgwyr yng Nghlwb Rygbi Dinbych, diolch i griw o wirfoddolwyr. Yn ogystal â chyfle i ddysgu geirfa rygbi tra’n gwylio gêm, daeth Côr Meibion Dinbych draw i arwain y canu yn y bar wedyn.
Yn ôl Steven Hoyle o Ruthun a fu draw: “Am syniad gwych medru ymarfer Cymraeg tra’n cyd-ganu dros beint! Rydw’i wir wedi mwynhau’r prynhawn ac yn edrych ymlaen at barhau i ymarfer fy Nghymraeg wrth wylio rhagor o rygbi yn y dyfodol. Dwi wedi ymuno mewn sawl taith gerdded a sesiwn Paned a Sgwrs dros y flwyddyn diwethaf, mae’r cyfleoedd i ymarfer Cymraeg mor werthfawr i ni fel siaradwyr Cymraeg newydd. Diolch i bawb sy’n trefnu.”
Dyma beth o’r arlwy i ddysgwyr yn ystod mis Ebrill:
8fed: Caffi Treferwyn, Corwen a Llyfrgell Dinbych.
15fed: Neuadd Paterson, Dyserth.
17eg: Llyfrgell Rhuddlan a Hwb Pentredŵr (ger Llangollen).
20fed: Eglwys Sant Pedr, Rhuthun.
Rhagor o fanylion trwy e.bostio menter@misirddinbych.cymru neu trwy ffonio’r Fenter ar 01745 812822. Neu cadwch olwg ar dudalen facebook Menter Iaith Sir Ddinbych.