Cyfnod Ymgeisio ar gyfer Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016 yn awr ar agor
Rydym ni, C2 Radio Cymru, a Maes B yn chwilio am fandiau newydd ifanc Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, sy’n cael ei lansio heddiw.
Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn rhoi llwyfan i dalentau ifanc o bob cwr o Gymru sy’n awyddus i ddod yn rhan o’r Sîn Gymraeg, dyma gynllun sy’n cynnig pob math o brofiadau a chyfleoedd i fandiau ifanc, fydd yn rhoi blas, awch a hyder iddynt i ganu’n Gymraeg.
Bydd 3 rownd ranbarthol cyn y rownd derfynol ar lwyfan Maes yr Eisteddfod Awst 2 2016.
Os wyt ti eisiau cyfle i weithio â cherddorion profiadol, codi proffil dy waith ac ymuno â’r Sîn Gymraeg, mynna dy gyfle a chymryd rhan!
Cer i wefan C2 Radio Cymru Brwydr y Bandiau am fwy o fanylion ar sut i gofrestru, lluniau o ennillwyr y gorffennol a llawer mwy.
Dere nôl yn fuan am fwy o wybodaeth a chadwch lygaid ar ein tudalen Facebook a Twitter am fwy o ddiweddariadau.
Cofia ddefnyddio’r hashnod #brwydrybandiau wrth sôn am y gystadleuaeth.