Efallai mai anghyffredin yw gweld perfformiad theatraidd mewn sioe amaethyddol, ond dyna’n union fu’r wledd i fynychwyr Sioe Dinbych a Fflint yr wythnos ddiwethaf wrth i Fenter Iaith Sir Ddinbych ddod â sioe i’r maes. Sioe un ferch, gan y cwmni gwych Mewn Cymeriad oedd yn aros cynulleidfa wresog ym mhafiliwn Merched y Wawr ar y cae sioe. A thema cwbl addas i sioe llawn defaid safonol o bob lliw a llun, Gwlân Gwlân.

Hanes gawn ni trwy lygad Arglwyddes Llanofer, yr eicon ffasiwn gyntaf yng Nghymru ac un a fu yn llysgennad heb ei hail dros wlân i ddilladu merched o’i chwmpas yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yr actores, Catrin Morgan (adnabyddus i wylwyr S4C fel  un o gast y gyfres deledu Teulu) gafodd y fraint o gwffio yn erbyn synau hwyliog y sioe mewn pabell gynfas ac mi lwyddodd yn rhyfeddol. Hoeliodd sylw cynulleidfa mewn dau berfformiad ac roedd y plant oedd yn eistedd ar fatiau campfa o’i blaen wedi eu cyfareddu. Roedd y ffaith iddi gynnig gwisgoedd gwlân iddynt eu gwisgo, sgwrsio’n uniongyrchol â nhw gydol y sioe a’i dwyn i mewn i fyd ‘Leidi Llanofer’ fel actorion eu hunain, yn wych. Cafodd dwy ohonynt gyfle i feimio symudiadau’r broses o gynhyrchu gwlân, gyda’r Arglwyddes. O’r cneifio, didoli, chwalu, cribo, nyddu, gwehyddu, golchi a sychu ac yna lliwio’r edafedd gwlân, roedd digon o ystumiau a symudiadau i gadw’r ddwy fach yn ddiddig!

Fyddai’r sioe ddim yn bosib heb gefnogaeth Hamdden Sir Ddinbych trwy arian Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mae’n bendant yn ffordd wych o sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cefnogi’r Gymraeg mewn lleoliad byw, gan fynd a’r iaith at y bobl. Wrth i’r celfyddydau wynebu cyfnod o ansicrwydd, diolch bod criw Menter Iaith yn gallu meddwl y tu allan i’r bocs.

Bydd cynhyrchiad ‘Mewn Cymeriad’ arall yn ymweld â Sir Ddinbych yn yr wythnosau nesaf. Bydd Annie Cwrt Mawr, drama un fenyw yn seiliedig ar fywyd Annie Jane Hughes Griffiths. Bydd ymgyrchydd cydraddoldeb a rhyngwladol dros heddwch a roddodd lais i ferched Cymru yn cael ei pherfformio yn Saesneg yng Ngharchar Rhuthun nos Iau 12 Medi 2024 ac yn Gymraeg brynhawn Gwener 13 Medi yn Theatr John Ambrose, Rhuthun. Mae tocynnau ar gyfer y sioe Saesneg yng Ngharchar Rhuthun ar 12 Medi ar gael o Eventbrite >>> https://bit.ly/3Xbs8Tj gyda thocynnau ar gyfer y sioe Gymraeg ar 13 Medi ar gael gan Menter Iaith ar 01745 812822 / menter@misirddinbych. cymru