Mae sioe Dawel Nos gan Theatr Bara Caws yn dod i Ddinbych.
Mi fydd y sioe yn dod i Glwb Rygbi Dinbych ar y 15fed o Ragfyr. I gael tocyn neu am unrhyw ymholiadau pellach, ffoniwch Fenter Iaith Sir Ddinbych – 01745 812 822.
Miliwnydd, naci biliwnydd a chybudd o fri yw Eban Gandryll – perchennog T.W.A.T (Tegannau Wil a Tina). Mae’n gas ganddo’r ‘Dolig ac unrhyw beth sydd yn ymwneud â’r ‘Dolig. Ond nid felly’r oedd hi– flynyddoedd maith yn ôl, â’r busnes yn ffynnu…… as in really funny, roedd o’n ddyn cydwybodol, croesawgar, a charedig.
Beth am ymuno â ni ar y dawel nos hon, i weld a lwyddith Dilwyn Trwmp, perchennog Toys-we’R, i daro bargen a phrynu T.W.A.T? A fydd Bob Scratchit yn llwyddo i ddenu digon o bres i gael y lawdriniaeth angenrheidiol i Twm Fychan? Fydd Lleucu Sbync yn llwyddo i dynnu Cracer ‘Dolig ‘rhen Eban? Neu yn bwysicach oll, fydd ‘Death’ yn llwyddo i gnocio ychydig bach o synnwyr i ben yr hen sinach?
Ymunwch â ni, staff achwsmeriaid T.W.A.T am noson o ddiddanwch a chwerthin fydd yn siŵr o’ch cael yn hwyl ac ysbryd yr ŵyl.
NADOLIG LLAWEN
Yr Actorion : – Iwan Charles, Mari Emlyn, Llyr Evans, Carys Gwilym a Emyr ‘Himyrs’ Roberts
Cyfarwyddwr – Iwan Charles
Canllaw Oed – 18 +