Fel rhan o ddathliadau Calan Gaeaf eleni mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn cynnal cystadleuaeth arbennig i blant cynradd i greu ac addurno penglog Gwyn ap Nudd, Brenin Annwn (neu Annwfn).
Mae cyfres o fideos yn adrodd stori Gwyn ap Nudd a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymreig wedi eu cyflwyno gan y storïwr Gwilym Morus-Baird mewn cydweithrediad â Hunaniaith Menter Iaith Gwynedd. Bwriad y fideos yw codi ymwybyddiaeth o’r chwedloniaeth Gymreig a Cheltaidd sy’n gysylltiedig â noson Calan Gaeaf.
Mae modd lawrlwytho templed i gystadlu i greu penglog papur. Er mwyn cystadlu, anfonwch lun o’ch penglog wedi ei greu at erin@misirddinbych.cymru erbyn Dydd Mawrth 4 Tachwedd. Bydd y penglogau yn cael eu beirniadu a’r enillydd yn cael eu cyhoeddi wedi hynny.