Fel rhan o ddathliadau Calan Gaeaf eleni mae’r Mentrau Iaith yn tynnu sylw at ffigwr blaenllaw o chwedloniaeth Geltaidd ar gyfer Dydd y Meirw – Gwyn ap Nudd.  

Bydd modd i blant a phobl ifanc i greu ac addurno penglog Gwyn ap Nudd, Brenin Annwn (neu Annwfn).  

Diolch i gydweithrediad Menter Iaith Gwynedd, mae cyfres o fideos yn adrodd stori Gwyn ap Nudd a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymreig wedi eu cyflwyno gan y storïwr Gwilym Morus-Baird. Bwriad y fideos yw codi ymwybyddiaeth o’r chwedloniaeth Gymreig a Cheltaidd sy’n gysylltiedig â noson Calan Gaeaf.

Wedi eu hysbrydoli o glywed yr hanes bydd modd lawr lwytho templed i greu penglog papur wrth ddilyn yr atodiadau isod:

Templed Penglog

Cyfarwyddiadau

Traddodiadau Calan Gaeaf