Er nad oes llawer o fusnesau stryd fawr ar agor ar hyn o bryd, braf iawn oedd gweld sawl un wedi addurno eu ffenestri i ddathlu diwrnod ein nawddsant.
Cynhaliwyd cystadlaethau ffenestri Dydd Gŵyl Dewi eto eleni gan Menter Iaith Sir Ddinbych, gyda chymorth cynghorau tref yn Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun.
Roedd y rhai a ddaeth i’r brig fel a ganlyn:
Dinbych:
1af Siop flodau Reebies, 2il Fferyllfa Royles Cydradd 3ydd Siop flodau Costellos a siop ffotograffiaeth Tony Griffiths
Rhuthun:
1af State of Distress, 2il Ruthin Wholefoods, 3ydd Fineline
Rhuddlan:
1af The Little Cheesemonger, 2il Hazel Court
Meddai Iorwen Jones o Menter Iaith Sir Ddinbych “Diolch i’r holl busnesau am gymryd rhan ac am helpu i godi calon ar gyfnod mor heriol i’r stryd fawr.”
Mae lluniau’r ffenestri i gyd i’w gweld ar dudalen facebook Menter Iaith Sir Ddinbych fan hyn.