Hoffech chi (neu rywun ‘de chi’n nabod) ddatblygu sgiliau bywyd a rhifedd, a hynny mewn sesiynau hwyliog, cymdeithasol yn hytrach na gwersi ffurfiol? 

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych ar fin dechrau cyfres o sesiynau dan arweiniad arbenigwyr rhifedd  a maths. I unrhyw un dros 19 oed.

Bydd y sesiynau AM DDIM (diolch i nawdd gan DVSC a Llywodraeth y D.U.) ar gael ar nos Lun neu fore Gwener, ac yn cynnwys lluniaeth a chinio/swper ysgafn.

Cyflwynir y sesiynau gan Ifor John Jones a Bethan Cartrwight yn Hwb Dinbych dros gyfnod o 6 wythnos yn cychwyn dechrau mis Hydref.

Hyn oll AM DDIM, ac yn cynnwys cinio neu swper ysgafn a phaned?

* 6 sesiwn o tua 3 awr yr un

* cewch ddewis Nos Lun 6 – 9.15pm NEU Dydd Gwener 10am – 2pm

Croeso i fynychwyr ddod â llechen (ipad) eich hunain neu bydd rhai ar gael i’w benthyg yn ystod y sesiynau.

Ymholiadau a chofrestru c.g.â.ph trwy menter@misirddinbych.cymru neu 01745 812822