Dramedi newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun.
Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion. Hogia, hela a ffymbls maes parcio’r National Trust.
Mae’r haf ar droed. Mae’r gens yn barod am bartis ac mae bywyd yn llawn posibiliadau. Tra bod rhai perthnasau’n blodeuo, mae eraill yn dirywio. Ond ydi Nel yn gallu delio hefo hyn?
Betsan Ceiriog sy’n serennu yn y ddramedi Gymraeg newydd yma gan y dramodydd ifanc Mared Llywelyn sy’n un o leisiau mwya’ cyffrous theatr Cymru.
Yn gomisiwn newydd gan Frân Wen, mae’r fonoddrama yn cael ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe.
TAITH
- Theatr Twm O’r Nant, Dinbych 11 Chwefror (01745 812349 / 07919 912743 neu Siop Clwyd i archebu
*BSL + Capsiynau Saesneg a Cymraeg
Canllaw oedran: Anaddas i dan 14 oed.