Digwyddiad canu torfol i uno cymunedau!
Mae’r fenter gymunedol Nerth Dy Ben yn cynnal digwyddiad canu torfol arbennig yn y flwyddyn newydd gyda’r nod o ddod â chymunedau at ei gilydd i greu rhywbeth torfol a chofiadwy.
Nos Sadwrn, 31 Ionawr bydd ‘Cana Nerth dy Ben’ yn dod i Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
Beth ydi Cana Nerth dy Ben? Yn syml, cyfle unigryw i dorf o bobl ddysgu a chanu tair cân Gymraeg cyfarwydd gyda’i gilydd o dan yr un to. Bydd y noson yn gorffen â pharti yng nghwmni Band Pres Llareggub.
Does dim rhaid cael profiad o ganu gan mai digwyddiad anffurfiol a chroesawgar ydi o.

Pwy yw Nerth dy Ben?
Sefydlwyd Nerth dy Ben gan Alaw Llwyd Owen o Ddinbych, wedi i ddamwain car newid ei bywyd yn 2018. Wedi’r blynyddoedd yn dilyn y ddamwain, roedd Alaw Owen yn benderfynol o ganolbwyntio ar gryfder aruthrol y meddwl ac ystyried yr hyn roedd hi’n gallu ei wneud yn hytrach na’r hyn nad oedd hi’n gallu ei wneud.
Yn sgil ei phrofiadau, sefydlodd blatfform sy’n dod â phobl at ei gilydd gan annog eraill i ddysgu a chredu yng ngallu a nerth positif y pen er mwyn byw bywyd ar ei orau!
Yn ôl Alaw Owen y sbardun i’r prosiect diweddaraf gan fudiad ‘Cana Nerth Dy Ben’ oedd y “dyhead i uno cymuned” a “dod â phobl at ei gilydd, wyneb yn wyneb i greu cysylltiadau a chyflawni rhywbeth efo’n gilydd”.
“Mae’r weithred honno yn ei hun yn gwneud gwyrthiau i’r ffordd mae’n hymennydd ni’n gweithio gyda canu yn cryfhau’n gallu i gael ffocws, i wneud penderfyniadau, ac yn cefnogi nerth positif y pen!’
“P’un ai ydach chi jest yn canu yn y car, chwilio am ffyrdd i ymarfer y Gymraeg, neu isho profiad positif yn ystod tymor y gaeaf – mae’r croeso yn un gynnes i bawb!”
Y Digwyddiad
Mae croeso i unrhyw un gofrestru, a bydd modd derbyn traciau o’r caneuon sydd wedi’u trefnu’n arbennig ar gyfer y digwyddiad ar ôl cofrestru. Bydd tair cân Gymraeg yn cael eu canu; un araf, un epic ac un fwy egniol!
Bydd y cyfan yn cychwyn am 5 o’r gloch a’r nod ydi cael gymaint bobl i ddod ynghyd i gyd-ganu mewn torf!
Mae posibl cofrestru drwy glicio ar y linc yma > https://forms.gle/MXhHxE8mUpcwPYHF7