Cymrodd busnesau o bedair tref yn Sir Ddinbych, Prestatyn, Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun ran yng nghystadleuaeth ffenest siop flynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych i nodi dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi.

Mae dathlu gŵyl ein nawddsant, trwy addurno ffenestri siopau yn rhoi’r cyfle i fusnesau ymgysylltu â chwsmeriaid a rhoi’r statws dyledus i’r digwyddiad cenedlaethol pwysig hwn.

“Rydym yn falch iawn o weld cefnogaeth gan nifer o fusnesau sy’n sylweddoli gwerth masnachol defnyddio’r Gymraeg a’r diwylliant o fewn eu busnesau,” eglura Iorwen Jones o Fenter Iaith Sir Ddinbych.

“Mae trefnu’r digwyddiad hwn yn dangos ein cefnogaeth, fel Menter, i fusnesau annibynnol lleol sy’n gweithio’n galed i ddenu cwsmeriaid a hyrwyddo eu cynnyrch mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys rhoi lle dyledus i’r Gymraeg a Chymreictod.

“Rydym yn ddiolchgar i bob un o’r busnesau a ymgysylltodd â ni trwy’r gystadleuaeth, a hynny trwy ddangos creadigrwydd, cynnyrch a lliw Cymreig bendigedig yn ffenestri eu siopau. Mae’n wych gweld cymaint o fusnesau eisiau hybu eu Cymreictod o fewn trefi Sir Ddinbych.”

Mae Menter Iaith, sy’n elusen, yn ddiolchgar am holl gefnogaeth ei phartneriaid, wrth iddynt weithio i hybu defnydd o’r Gymraeg ym mywydau pob dydd trigolion y sir. Eleni roedd Cynghorau Tref Rhuthun, Dinbych, Prestatyn a Rhuddlan yn bartneriaid yn y gystadleuaeth wrth gefnogi’r gweithgareddau yn eu trefi priodol.

Meiri y Dref fu’n beirniadu ffenestri’r siopa ym mhob un o’r bedair stryd fawr gyda gwobrau’n cael eu rhoi i’r tri busnes buddugol ym mhob tref. Roedd y beirniaid yn sgorio pwyntiau am greadigrwydd, defnydd o’r iaith Gymraeg, cyfeiriadau at Ddewi Sant a diwylliant Cymru, fel rhan o’i rôl.

Y Canlyniadau:

Rhuthun

  1. Lovingly Made by Lyn
  2. Siop Children’s Society
  3. Amazing Dogs

Rhuddlan

1.   Wish

2.   Hazel Court

3.   Rejuva

Prestatyn

1.   Sewing Room

2.   Williams Estates

3.   The Garden Den

Dinbych

  1. Monopoly
  2. Reebees
  3. Fferyllfa Royles

Mae lluniau o’r holl ffenestri i’w gweld ar dudalen Facebook Menter Iaith Sir Ddinbych.