Cafwyd taith gerdded fendigedig ddydd Mercher 29 Ebrill yng Nglyndyfrdwy ei gynnal dan arweiniad y tywysydd profiadol Arfon Hughes. Dyma’r daith gyntaf o nifer o deithiau cerdded yn ne Sir Ddinbych lle bydd cyfle i ddysgwyr ddod i adnabod eu cynefin yn well a dysgu mwy am hanes yr ardal dan ofal amryw arweinwyr.

Gydag Arfon Hughes yn hynod wybodus am hanes Owain Glyndŵr, cyn pen dim roedd y dysgwyr yn dangos chwilfrydedd ac yn holi cwestiynau. Cafwyd dro hyfryd yn dysgu mwy am ei hanes a’i dywysogaeth a chyfle i ymweld â safle tomen mwnt a beili, heb anghofio wrth gwrs y cyfle i ymarfer siarad Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol.

Roedd y tywydd yn fendigedig a gyda 7 o siaradwyr newydd y Gymraeg yn bresennol, cafwyd cylchdro hyfryd gyda golygfeydd godidog o’r ardal i’w gweld ac ambell gwningen yn rhedeg yn rhydd yn y pellter.

Bu’n baned yn Neuadd Glyndyfrdwy ar ddiwedd y daith yn gyfle gwych i’r siaradwyr newydd ddod i adnabod ei gilydd yn well.

Diolch yn fawr i Bartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych am gefnogi ac edrychwn ymlaen at y daith nesaf ddiwedd y mis hwn. Caiff mwy o wybodaeth ei ryddhau yn fuan!