Mae pwysigrwydd rhannu’r Gymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chefnogol wedi’i amlygu eto drwy gyfres o sesiynau Paned a Sgwrs ar draws Sir Ddinbych.

Mae’r sesiynau, a gefnogir gan Menter Iaith Sir Ddinbych a Popeth Cymraeg, mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr lleol, yn cynnig cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg llafar wrth gymdeithasu dros baned, gan helpu i feithrin hyder a chreu ymdeimlad o berthyn yn y gymuned.

Yn ôl Gwyneth, sy’n arwain sesiynau misol yn nhafarn gymunedol y Salusbury Arms yn Nhremeirchion, y nod yw creu amgylchedd anffurfiol: “Nid gwersi Cymraeg yw’r rhain, ond cyfle i ymarfer. Rydym hefyd yn cymysgu siaradwyr rhugl gyda dysgwyr, ac mae hynny’n gwneud byd o wahaniaeth.”

Dywedodd Iola, sy’n cyd-arwain y sesiynau yn Nhremeirchion, fod dysgwyr wedi magu hyder dros amser: “Yn y cychwyn roedden nhw’n disgwyl rhywbeth mwy ffurfiol, ond maen nhw wedi ymlacio—ac dydyn nhw ddim yn poeni siarad ‘Wenglish’ pan nad oes ganddyn nhw’r geiriau.”

Ychwanegodd Martin, sy’n mynychu sesiynau mewn sawl lleoliad: “Dw i’n licio’r sesiwn yma yn benodol gan ein bod yn cael lot fawr o hwyl. Mae ’na bobl gwahanol yma o bob lefel, ac mae Gwyneth yn arweinyddes dda iawn.”

Mae mynychwyr yn pwysleisio’r awyrgylch gyfeillgar, gyda Jackie yn dweud ei fod yn “help mawr” i adeiladu hyder, tra bod siaradwr rhugl Carys yn edmygu’r rhai sydd wedi parhau i fynychu ac wedi datblygu’r gallu i sgwrsio’n naturiol heb embaras.

Yn ystod sesiwn ddiweddar yn Nhremeirchion, bu trafodaeth ar y thema “arwr neu arwres”, gan danlinellu’r cymysgedd o hwyl a dysgu sy’n nodweddiadol o’r cyfarfodydd.

Cynhelir y sesiynau’n fisol yn Nhremeirchion, Dinbych, Rhuthun, Pentredŵr, Dyserth, Corwen, Nantglyn a Llyn Brenig, gyda chroeso i ddysgwyr o bob lefel.

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch Menter Iaith Sir Ddinbych ar Facebook, ffoniwch 01745 812822 neu e-bostiwch menter@misirddinbych.cymru

Dolen – Calendr o Ddigwyddiadau Cymraeg a Dwyieithog | Menter Iaith Sir Ddinbych