Fel cenedl ddwyieithog mae’n hanfodol fod yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed ar draws y wlad. Mae cannoedd o bethau bach hawdd – ‘Pethau Bychain’ – y gall pawb eu gwneud pob dydd i gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg, pa bynnag lefel o Gymraeg (dysgwyr neu rugl) sydd ganddynt.
Mae llawer o gyfleoedd i ddefnyddio mwy o’r iaith Gymraeg bob dydd. Wrth rannu ac atgoffa pobl o’r Pethau Bychain y gellir eu gwneud y gobaith yw ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Trwy gefnogi ein gilydd gallwn gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn y genedl ddwyieithog hon.
I’ch ysbrydoli chi, dyma rai awgrymiadau o’r #PethauBychain hynny y gallwch chi annog eich cynulleidfaoedd i’w gwneud.
Byw
- Ysgrifenna restr siopa bwyd yn y Gymraeg bob tro
- Defnyddia’r Gymraeg wrth dynnu arian allan o’r banc
- Rho enw Cymraeg i dy anifail anwes
Dysgu
- Beth am ganu cân Cymraeg gyda dy blentyn?
- Dechrau dysgu gyrru? Beth am roi ‘D’ am ddysgwr ar y car?
- Gwisga fathodyn brand Cymraeg i ddangos i gwsmeriaid bod gwasanaeth dwyieithog ar gael
Mwynhau
- Cer i un o’r nifer o wyliau Cymraeg dros yr haf
- Beth am ddewis gwylio’r rygbi ar y teledu yn y Gymraeg gyda ffrindiau?
- Angen pethau newydd i’r tŷ? Beth am brynu nwyddau Cymraeg- mae digon o ddewis.