Mae defnydd o famiaith yn hanfodol wrth gynnig gofal a chefnogaeth i rai sy’n byw gyda dementia.
Fel elusen sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg yn Sir Ddinbych, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio tuag at statws o fod yn Dementia Gyfeillgar.
Ar Ebrill 10fed, 2019, daeth Cadeirydd Dementia Gyfeillgar Dinbych, Dilwyn Jones, i ymweld â’r swyddfa i’n cyflwyno â thystysgrif i gadarnhau ein bod bellach yn sefydliad sy’n ‘Gweithio tuag at bod yn Ddementia Gyfeillgar’.
Gallwch ddarganfod mwy am Dementia Gyfeillgar Dinbych drwy fynd i’w tudalen Facebook.