Bydd cwmni theatr Mewn Cymeriad yn dychwelyd eto eleni i lwyfanu cynhyrchiad am un o feirdd amlycaf Cymru a’r ymgyrchydd heddwch Waldo Williams.

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i fro’r Garreg Las yn 2026, mae’n addas talu teyrnged i waith a bywyd un o blant amlycaf yr ardal honno. Yn y cyflwyniad hwn, cawn gip ar y cwlwm tynn rhwng profiadau ei fywyd, delfrydau ei athroniaeth a’i gerddi ac ystyried mor berthnasol yw ei eiriau ein dyddiau ni. 

Wedi’i hysgrifennu gan y prifardd Mererid Hopwood a’i chyfarwyddo gan Janet Aethwy, bydd y cynhyrchiad yn teithio ledled Cymru gan ddilyn yr actor Ryland Teifi sy’n portreadu Waldo Williams.

Bydd yn dod i Theatr Twm o’r Nant yn Ninbych nos Fercher, 25ain o Chwefror gan gychwyn am 7:30pm.

Mae modd archebu tocynnau drwy glicio ar y ddolen yma: Tocynnau digwyddiad Mewn Cymeriad oddi wrth TicketSource.