Mewn partneriaeth rhwng PYST, Mentrau Iaith Cymru a Noson Allan, dyma gyhoeddi’r drydedd gylchdaith o amgylch ardaloedd gwledig Cymru.

Yn dilyn llwyddiant y ddwy gylchdaith hyd yma, fu’n gweld HMS Morris a The Gentle Good yn perfformio ar hyd a lled Cymru yn 2023, pleser yw cyhoeddi mai’r cerddor a’r cyfansoddwr, Gwilym Bowen Rhys, fydd yn mynd ar daith ar gyfer trydydd rhediad y gylchdaith yn fuan yn 2025. 

Bwriad y bartneriaeth yw ail-gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg fyw i ardaloedd gwledig Cymru ac i gynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn cael mynediad at gerddoriaeth fyw yn lleol. Bydd y drydedd gylchdaith yn gweld Gwilym Bowen Rhys yn perfformio ar draws un a’r ddeg o leoliadau gwahanol – gan lansio ei albwm newydd sbon, ‘Aden’, fydd yn glanio ddydd Llun 20fed o Ionawr drwy Recordiau Erwydd. 

Mae’r gylchdaith, sydd wedi’i gefnogi gan Noson Allan, cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru, yn lansio ar yr 23ain o Ionawr yn Neuadd Llannefydd. Bydd yr artistiaid Melda Lois, Elin a Carys a Cadog yn cefnogi Gwilym Bowen Rhys ar hyd y daith. 

Eglura Tomos Jones ar ran Mentrau Iaith Cymru: “Rydym yn gyffrous iawn ar gyfer y drydedd daith ar y cyd rhwng y Mentrau Iaith a PYST. Nod y prosiect yw mynd â cherddoriaeth iaith Gymraeg o’r safon uchaf i bob cornel o’r wlad, ac rydym yn ymweld â nifer o leoliadau newydd am y tro cyntaf ar y daith yma. Yn ogystal â Gwilym a’i driawd, bydd cyfres o artistiaid newydd yn cefnogi ar y daith, ac felly bydd y prosiect hefyd yn cynnig cyfleoedd pwysig iddyn nhw chwarae i bobl newydd ac adeiladu eu cynulleidfaoedd.”

Ychwanega Owain Williams o PYST: “Mae’n gyffrous gweld y gylchdaith yn dychwelyd ar gyfer ei thrydydd rhediad flwyddyn nesaf a’n grêt gweld lleoliadau newydd, mwy amrywiol, yn rhan o’r daith. ‘Da ni’n edrych ymlaen at allu cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i ardaloedd mwy gwledig Cymru, fydd yn gobeithio ail-ddechrau’r arferiad o gigs cymunedol lleol.”

Am fwy o wybodaeth am Sir Ddinbych, cysylltwch â Menter@misirddinbych.cymru