Mae Magi Ann yn prysur ddod yn un o hoff gymeriadau plant bach Cymru ac mae hi ar daith yn Sir Ddinbych dros yr wythnosau nesaf.

Mae cenedlaethau o blant wedi dysgu darllen gyda llyfrau du a gwyn Magi Ann ers y 70au, ond erbyn heddiw mae’r straeon ar gael wedi’u animeiddio ar chwech o apiau.

Diolch i gydweithrediad Cymraeg i Blant a Grwp Cynefin, mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn mynd a Magi Ann am dro o gwmpas y Sir i gyfarfod criwiau newydd o blant bach a’u rhieni mewn llyfrgelloedd a lleoliadau eraill. Cadwch olwg ar ein tudalen facebook neu cysylltwch ar 01745 812822 i holi am ddyddiadau.

Os ydych yn leoliad gofal plant neu’n ysgol, beth am wahodd Magi Ann draw atoch? Mae hi wrth ei bodd mewn ffeiri haf, sesiynau rhiant a phlentyn a digwyddiadau i deuluoedd.