Daeth tref Dinbych i stop am ychydig oriau ddydd Mawrth y cyntaf o Fawrth, wrth i dros 300 o blant orymdeithio i fyny Stryd y Dyffryn i sain byrlymus band Cymreig wrth ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi.
Trefnwyd y digwyddiad gan bartneriaeth rhwng Menter Iaith Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin, Cyngor Tref Dinbych a’r Urdd gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, er mwyn rhoi cyfle i blant cynradd o ysgolion Dinbych a’r cyffiniau ddod at ei gilydd i ddathlu gŵyl ein nawddsant.
Arweiniodd Band Cambria y dorf o faes parcio gwaelod Stryd y Dyffryn ac i fyny’r allt wrth i drigolion a pherchnogion busnesau’r dref ymgasglu’n ddiogel ar y palmentydd i fwynhau’r awyrgylch wedi gohirio’r orymdaith y llynedd oherwydd y pandemig.
Yn ôl Ruth Williams o Fenter Iaith Sir Ddinbych a oedd yn un o drefnwyr y digwyddiad: “Mae wedi bod yn chwa o awyr iach gweld y plant a staff yr ysgolion yn cymryd rhan mewn gweithgaredd i nodi a dathlu Gŵyl Ddewi mewn heulwen braf. Mae gweld cymaint o wynebau hapus o’n cwmpas yn disgwyl amdanom ar hyd palmentydd y dref wedi bod yn werth chweil.
“Mae nodi Dydd Gŵyl Ddewi yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn galendr arferol. Mae dod â’r digwyddiad yn ôl i Ddinbych, ar ôl seibiant oherwydd y pandemig, wedi bod yn her oherwydd y cyfnod byr a gawsom i drefnu’r digwyddiad, ers i gyfyngiadau Llywodraeth Cymru gael eu codi. Mae’r tîm cyfan a’r partneriaid mor falch o’r gefnogaeth a gawsom gan bawb a gymerodd ran. Diolch Dinbych!”
Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae Grŵp Cynefin yn falch iawn bod yr orymdaith Dydd Gŵyl Ddewi yn gallu digwydd unwaith eto, ac mae gweld pawb yn cymryd rhan yn fendigedig.
“Gydag un o’n prif swyddfeydd yng nghanol Dinbych, ein cynllun gofal ychwanegol, Awel y Dyffryn wedi ei agor bellach yn y dref hefyd, mea cymaint o gwsmeriaid, partneriaid, a staff wedi eu lleoli yn yr ardal. Mae Dinbych a’r ardal yn bwysig i ni fel cwmni ac rydym yn falch o fod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol hapus fel hwn yn yr ardal.”
Yn ôl y Cynghorydd Rhys Thomas, Maer Tref Dinbych: “Mae gorymdaith Dydd Gŵyl Ddewi yn y dref wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac rydym yn ddiolchgar i’r holl ddisgyblion am ddod â llawenydd a lliw i Ddinbych. Diolch i Band Cambria a’r holl bartneriaid a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod.”
Fideo o’r orymdaith o sianel Youtube Menter Iaith Sir Ddinbych.