gan Gwenno Williams, Swyddog Cynorthwyol newydd Menter Iaith Sir Ddinbych

Daeth y cyfle i ni ym Menter Iaith Sir Ddinbych, ynghyd â phartneriaid eraill, i gydweithio gyda Gogledd Cymru Actif er mwyn cynnal Gŵyl Cymru Ewro 2025 ychydig wythnosau yn ôl.

Gwenno Williams gyda’r Swyddog RhAG yn nigwyddiad Ewros Cymru yn Ninbych

Cynhaliwyd un digwyddiad i blant yn Ninbych, ac un arall ym Mhrestatyn i ddathlu llwyddiant tîm Merched Cymru wrth iddynt gystadlu yn yr Ewros am y tro cyntaf erioed.

Roedd stondin Menter Iaith Sir Ddinbych ar y cyd gyda Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) a chelf gyda’r artist lleol, Tara Dean. Roedd nifer o weithgareddau i’r mynychwyr, gan gynnwys ysgrifennu negeseuon Cymraeg yn dymuno’n dda i dîm Merched Cymru, rholio neu gicio pêl i mewn i dyllau, cwrdd â Magi Ann, gweithgareddau lliwio taflenni Ewros Mentrau Iaith, creu bathodynnau Cymru a chreu baner un o wledydd yr Ewros.

Cafodd pawb modd i fyw a braf oedd medru sgwrsio gyda nifer o blant a rhieni yn ystod y gweithgareddau. Roedd pawb yn ymfalchïo yn llwyddiant merched Cymru o gyrraedd yr Ewros.