Yn dilyn llwyddiant Ffair Cynnyrch y Gogledd Ddwyrain ar Facebook nôl ym mis Gorffennaf, mae Ffair Rithiol Mentrau Iaith y Gogledd Ddwyrain (Mentrau Iaith Conwy, Sir Ddinbych a Fflint a Wrecsam) bellach yn nôl – ond ar ei newydd wedd.

Erbyn hyn mae gan y Ffair enw newydd sef Gwefarchnad y Gogledd Ddwyrain ac y tro hwn bwyd a diod fydd ar bob stondin.

Wrth i gyfyngiadau lleol a’r cyfnod ansicr hwn barhau, mae’n bwysicach nag erioed i brynu’n lleol a chefnogi cynnyrch lleol a busnesau bach. Er y newid yn yr enw, nid oes unrhyw newid yn nod y dudalen Facebook, gyda’r prif amcan yn parhau i fod i gynnig llwyfan i fusnesau bach lleol gogledd ddwyrain Cymru hyrwyddo eu cynnyrch.

Cynhelir y Wefarchnad ar y dudalen Facebook ar ddydd Sadwrn, Hydref 31ain rhwng 10am- 2pm, gydag amrywiaeth o fusnesau o ar draws y Gogledd Ddwyrain yn cymryd rhan ynddi.

Er mwyn gweld y diweddaraf a pha fusnesau fydd yn cymryd rhan ‘hoffwch’ a ‘dilynwch’ y dudalen Facebook.

Am fwy o wybodaeth am y Wefarchnad e-bostiwch gwion@misirddinbych.cymru