Dydd Sadwrn 18 Hydref, cynhaliodd Marchnad y Frenhines yn y Rhyl ei gig dwyieithog cyntaf gyda chefnogaeth Menter Iaith Sir Ddinbych.
Roedd hi’n braf gweld cynifer wedi dod i gefnogi’r digwyddiad gyda dau fand lleol Tew Tew Tennau a Bau Cat yn diddanu’r gynulleidfa.
Yn ogystal â mwynhau’r gerddoriaeth, roedd cyfle i’r gynulleidfa hefyd flasu’r amrywiaeth o ddanteithion a oedd yno gan gefnogi busnesau lleol.
Dyma safle bywiog yn y Rhyl sydd wedi’i agor ei drysau haf eleni ac i ddysgu mwy am y safle ewch i > Marchnad y Frenhines, y Rhyl: Cyfleoedd | Cyngor Sir Ddinbych
Mae’r Fenter yn edrych ymlaen i gydweithio gyda’r Farchnad yn y dyfodol gan barhau gyda’r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg yno.





