Mae Gemau am Oes yn ymgyrch 8 wythnos sy’n anelu i ysbrydoli plant 5-11 oed i fod yn fwy heini yr Hydref hwn a thu hwnt.

Mae nifer o syniadau i ysbrydoli’r teulu cyfan – gemau tu mewn, gemau grŵp a gemau awyr agored.

Lansiwyd yr ymgyrch ar 12 Hydref gan Frankie Jones, y gymnast o Gymru, Ken Skates, y Dirpwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a’n partneriaid Gymnasteg Cymru, Diverse Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Wrth gofrestru i gael pecyn rhad ac am ddim Gemau am Oes drwy wefan www.newidamoes.org.uk bydd pob plentyn yn derbyn olwyn hwyl, pecyn o gardiau gweithgaredd, poster a thaflen sticeri.

Cofiwch fod modd lawrlwytho pecynnau Cymraeg.

advert