Edrych yn ôl tra’n symud ymlaen yn dathlu’r Gymraeg yn Sir Ddinbych

A hithau’n Wythnos Ymddiriedolwyr 2020 yr wythnos hon (2 – 6 Tachwedd), dyma gyfle i staff a chyfarwyddwyr Menter Iaith Sir Ddinbych ddathlu’r ffaith eu bod wedi derbyn dyfarniad Marc Elusen Ddibynadwy.

Mae’n farc cydnabyddedig cenedlaethol sy’n dangos bod Menter Iaith Sir Ddinbych yn sefydliad credadwy a safonol. Dyfarnwyd y marc yn dilyn asesiad allanol ac mae’r gydnabyddiaeth yn cadarnhau bod holl feysydd hanfodol y Fenter ar gyfer rheoli a llywodraethu elusen yn effeithiol, wedi cyrraedd y safon.

“Rydyn ni’n falch iawn o’r llwyddiant,” meddai Ruth Williams, prif swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych. “Nid ar chwarae bach roedd paratoi ar gyfer cyrraedd y marc yma, felly mae’n glod i’r tîm cyfan ein bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth.”

Daw’r dyfarniad ar ganol blwyddyn wahanol iawn i’r tîm gyda chyfyngiadau COVID19 wedi effeithio’n fawr ar raglen waith arferol y Fenter. O ddiwedd Mawrth bu’n rhaid addasu gwaith yn gyflym er mwyn parhau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o’r iaith, a hynny yn rhithiol.

Roedd hi’n braf gallu cyrraedd penllanw i waith y Fenter ar gyfer 2019 – 2020, trwy gynnal cyfarfod blynyddol llwyddiannus iawn ganol mis Hydref. Gwnaed hynny, am y tro cyntaf, yn rhithiol.

Yn ôl Alice Jones, Cadeirydd y Fenter: “Roedd hi’n brofiad da gallu dod ynghyd, er yn rhithiol, a tharo golwg dros waith y mudiad dros y flwyddyn a aeth heibio. Braf oedd gallu dathlu’r llwyddiant o ennill y marc elusen ddibynadwy a diolch i’r staff am eu gwaith. Yn aml iawn, mae pobl yn anghofio mai criw bychan o staff sydd gennym ni sy’n llwyddo i gyflawni toreth o waith mewn blwyddyn! Mae’r staff i’w gweld yn gweithio’n ddygn yn ein cymunedau, a rhaid talu clod iddynt am addasu mor hwylus i’r newid yn yr amgylchiadau pan darodd yr haint.

Alice Jones, Cadeirydd Menter Iaith Sir Ddinbych

“Mae 10 o gyfarwyddwyr ar y pwyllgor rheoli a’n gwaith yw cynnig arweiniad, anogaeth a chefnogaeth i’r swyddogion. Mae’n dod a phleser a boddhad i ni, ac rydym wastad yn chwilio am unigolion sy’n angerddol dros y Gymraeg i ymuno â’r pwyllgor.

Mae’r Fenter yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd â phrofiad o weithio yn y sectorau ieuenctid neu ddysgu Cymraeg i oedolion. Mae bod yn rhan o’r pwyllgor yn golygu cyfrannu’n wirfoddol ac yn adeiladol at hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir.

Os hoffech glywed mwy am waith y Fenter, neu os hoffech gefnogi neu ystyried ymuno â’r pwyllgor rheoli, cysylltwch â Ruth Williams ruth@misirddinbych.cymru neu alw 01745 812822