Dydd Llun 1 Rhagfyr, ymwelodd y Fenter ag Ysgol Caer Drewyn i gynnal gweithdai Lego fel rhan o brosiect Bocs Trysor.
Cafodd disgyblion hŷn yr ysgol gyfle i ddysgu am dreftadaeth a’u hanes lleol yr ardal drwy ail-adeiladu safle hanesyddol bwysig sef Glyndyfrdwy, cartref Owain Glyndŵr.
Drwy weithio mewn tîm a defnyddio’u dychymyg a’u creadigrwydd, llwyddodd y disgyblion i droi Castell Mwnt a Beili Glyndyfrdwy i fodelau bach o Lego.
Cafodd y disgyblion modd i fyw yn cydweithio mewn grwpiau yn adeiladu gan efelychu’r hyn roeddent wedi’i ddysgu yn ystod y sesiwn. Roedd y dyluniadau gan bob grŵp werth i’w gweld a phob un yn unigryw!
Dyma sesiwn hwyliog a chafodd y disgyblion gyfle i roi eu Cymraeg ar waith mewn awyrgylch hamddenol.
Diolch am y croeso!




