Wrth i ni edrych ymlaen ar ddechrau’r haf, dyma daro cipolwg yn ôl ar waith criw y Fenter wedi iddynt fod yn brysur yn cefnogi mewn digwyddiadau diwedd tymor yr ysgolion.
Mared Morris, swyddog cynorthwyol newydd y Fenter, fu’n brysur yn Ffair Haf Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych ac yn Ysgol Llewelyn, Y Rhyl dros yr wythnosau diwethaf.
“Mae’n agoriad llygad gweld y bwrlwm sy’n digwydd yn yr ysgolion cynradd yn Sir Ddinbych ac mae gweld a chlywed y Gymraeg gan ddisgyblion a rhieni yn chwa o awyr iach,” meddai Mared, 20 oed o Ddinbych sydd ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant.
Ymysg y deunyddiau oedd ar gael i rieni yn Twm o’r Nant oedd stondin gwybodaeth i rieni a dysgwyr y Gymraeg, gweithgareddau lliwio i’r disgyblion, brodyr a chwiorydd iau, ac wrth gwrs, ymweliad y dydd, Magi Ann!

Mared Morris o Ddinbych, Swyddog Cynorthwyol newydd Menter Iaith Sir Ddinbych yn Ysgol Twm o’r Nant
“Mae’r plant yn dotio cael gweld Magi Ann a chael dod draw i ddweud helo! Mae hi wastad yn mynd lawr yn dda ac yn creu atgof arbennig i blant o waith y Fenter. Mi roedd na fynd mawr ar daflenni lliwio Ewros Tîm Merched Cymru a Seren a Sbarc hefyd.”
Draw yn Y Rhyl, roedd bron i 200 o blant iau yn rhan o’r digwyddiad yn yr ysgol ac roedd stondinau gwybodaeth lu ar gael gan bob math o asiantaethau i arfogi rhieni ar gefnogaeth teuluol, iaith, diwylliant a gweithgareddau.
“Roedd cyfle i blant Ysgol Llewelyn rapio efo Magi Ann yn ystod ein hymweliad ac roedd gweld wynebau’r plantos yn hyfryd. Maen nhw’n dotio o weld cymeriad cartŵn yn dod yn fyw o flaen eu llygaid. Ac wrth gwrs, mae’r rhieni wedyn yn cysylltu Magi Ann gyda chyfleoedd y Gymraeg i’w plant.
“Gwnaethon ni gysylltiadau da gydag asiantaethau ac elusennau eraill yn Ysgol Llewelyn, felly gobeithio y bydd cyfle i ni gydweithio eto, gyda rhai ohonyn nhw sydd am gyflwyno’r Gymraeg i deuluoedd Sir Ddinbych,” meddai Mared.