Wyt ti’n hoffi bod yng nghwmni plant a phobl ifanc? Eisiau ymarfer dy Gymraeg? Dysgu sgil newydd? Neu beth am rannu dy angerdd dros y Gymraeg gyda’th gymuned? Wel, Menter Iaith Sir Ddinbych yw’r lle i ti, gan bod gan yr elusen sy’n hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg o fewn y sir gyfleoedd gwych i unigolion awyddus ar ddechrau Wythnos Gwirfoddolwyr Genedlaethol (1 – 7 Mehefin).
Mae delwedd pawb o ‘wirfoddoli’ yn gwbl wahanol, ac yn ein hamrywiaeth y mae ein cryfder. Mae gan unigolion gymaint o sgiliau, profiad a brwdfrydedd i rannu â mudiadau elusennol, ac mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi bod yn ffodus i brofi hynny dros y blynyddoedd diwethaf.
Gwenno Williams, 20 oed o Lannefydd yw un ferch dalentog sydd wedi rhannu ei brwdfrydedd trwy wirfoddoli gyda Menter Iaith Sir Ddinbych yn ystod ei gwyliau o astudio yn y brifysgol.
Fel myfyriwr y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, mae gan Gwenno sgiliau penodol hynod o ddefnyddiol y mae’n barod i’w rhannu gyda phlant ac oedolion sy’n mynychu digwyddiadau sydd wedi eu trefnu gan y Fenter neu pan fo’r elusen yn cydweithio â grwpiau a sefydliadau cymunedol.
“Dwi wrth fy modd yng nghanol bwrlwm plant a phobl ifanc, ac mae gwirfoddoli gyda’r Fenter yn cynnig sgiliau newydd i mi, wrth i mi bendroni am fy ngyrfa, wedi i mi orffen astudio yn y brifysgol. Mae gen i awydd cryf i fynd i’r byd addysg, felly mae gwirfoddoli gyda Menter Iaith Sir Ddinbych mewn amrywiol glybiau, digwyddiadau cymunedol a sesiynau hyrwyddo’r Gymraeg, wedi bod yn ofnadwy o werthfawr i mi. Dwi’n ddiolchgar iawn i Ruth a’r tîm am y cyfle.”
Bu Matty Minshull o Henllan hefyd yn gwirfoddoli hefo’r Fenter cyn cychwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2021. Daeth at y Fenter er mwyn ymarfer ei Gymraeg, a oedd wedi dysgu fel ail-iaith yn Ysgol Uwchradd Dinbych. Meddai Matty: “Wrth wirfoddoli gyda’r Fenter, ces i’r cyfle i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a hyder yn y Gymraeg. Roeddwn i wrth fy modd gyda hybu digwyddiadau ar gyfryngau cymdeithasol yr elusen, a gweithio gyda phobl yn y gymuned i hybu’r iaith. Fel person ifanc ar fin cychwyn yn y brifysgol, roedd hwn yn brofiad hynod o werthfawr. “
Yn ôl Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych, maen nhw’n awyddus i ddiolch i bobl am y cyfraniad maen nhw’n ei wneud i fudiadau gwirfoddol yn ystod Wythnos Gwirfoddoli Cenedlaethol.
“Rydyn ni’n ffodus yma yn Sir Ddinbych bod cymaint o wirfoddolwyr o bob oed yn cydweithio i sicrhau ffyniant a llwyddiant nifer o fudiadau o fewn ein cymunedau. O gyfrannu i’r papur bro, i arwain a chefnogi clybiau Ffermwyr Ifanc, a stiwardio mewn eisteddfodau lleol, all nifer o’n gweithgareddau cynhenid Cymreig ddim gweithio oni bai am wirfoddolwyr. Felly diolch iddynt am ymroi a chefnogi!
“I ni, fel Menter, mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Mae gennym nifer o bobl dalentog sy’n angerddol dros y Gymraeg, ac sy’n awyddus i rannu eu sgiliau ieithyddol a’i Cymreictod gydag eraill.
“Trwy gyfrannu amser neu trwy gyfrannu’n ariannol tuag at y Fenter sy’n elusen gofrestredig, mae cyfle i unigolion chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg o fewn eu cymunedau. Rydyn ni wastad yn chwilio am bob mathau o bobl a phobl ifanc i weithio gyda ni, mae’r drws ar agor.
“O gyn athrawon neu weinyddwyr meithrin sydd wedi ymddeol neu’n gweithio’n rhan amser, mae wastad lle gennym i groesawu mwy o sgiliau i weithio gyda phlant i annog y Gymraeg. Actorion sydd rhwng swyddi, rydym yn galw amdanoch i ddarllen straeon i blant yn ein sesiynau stori a chân.
Ffordd arall y mae’r Fenter yn cefnogi cymunedau i wella a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yw trwy gynnig cyngor ac arbenigedd i bwyllgorau sefydledig wrth hysbysebu a hyrwyddo digwyddiadau.
“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda phwyllgor cymunedol o wirfoddolwyr yn nhref Rhuddlan ar hyn o bryd i’w cefnogi wrth gynnig arlwy o ddigwyddiadau Cymreig eu naws yn y dref, a phasio sgiliau hyrwyddo a marchnata digwyddiadau iddynt.
“Cawsom ni hwyl garw yng Ngŵyl Fwyd Rhuddlan yn ddiweddar ac mae nosweithiau braf wedi bod yn lleol gyda grwpiau canu Yr Hen Fegin a’r Moniars yn perfformio. Mae criw gweithgar o wirfoddolwyr yno yn falch o allu cynnig arlwy o ddigwyddiadau Cymreig eu naws.”
Os am wybodaeth bellach am wasanaethau’r Fenter neu â diddordeb i wirfoddoli o fewn eich cymuned neu gefnogi gwaith y Fenter, yn ariannol neu drwy gynnig eich amser, yna ewch i’r wefan neu cysylltwch â Ruth Williams ar 01745 812822 neu ruth@misirddinbych.cymru
Mae cyfleoedd ar hyn o bryd i wirfoddolwyr gyda’r gweithgareddau canlynol:
- Helpu gyda teithiau cerdded a sesiynau sgwrsio anffurfiol i ddysgwyr
- Helpu gyda chynnal sesiynau stori a chân i blant bach
- Helpu gyda chynnal gweithgareddau ar ôl ysgol neu ambell benwythnos neu gwyliau ysgol (ee gweithdai Lego)
- Ymuno â phwyllgor ardal er mwyn helpu trefnu gweithgareddau cymdeithasol yn eich cymuned