Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi
Ddydd Llun 2 Mawrth, bu bwrlwm ar hyd strydoedd Dinbych eto eleni wrth i dros 700 o blant ymuno yn nathliadau Dydd Gŵyl Dewi, diolch i waith Menter Iaith Sir Ddinbych, Cyngor Tref Dinbych a’u partneriaid.
Yn arwain yr orymdaith a sicrhau diogelwch pawb oedd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru. Roedd dau gwnstabl ifanc ‘Heddlu Bach’ o Ysgol Pendref yn cefnogi’r swyddogion eleni. Cafodd y tri disgybl y cyfle i gael cipolwg y tu ôl i’r llenni ar waith yr heddlu yn Ninbych.
Roedd hi’n braf gweld trigolion a busnesau’r dref allan ar y strydoedd yn cefnogi a mwynhau’r dathliadau wrth i blant, staff, stiwardiaid a gwirfoddolwyr gerdded i gyfeiliant gerddoriaeth Cymraeg.
Er gwaetha’r glaw, roedd Sgwâr y Goron o dan ei sang a chafodd y 15 ysgol a fynychodd y digwyddiad groeso cynnes gan y cyflwynydd radio, Owain Llŷr.
Yn ôl Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych, “Rydym yn falch iawn o ddathlu Dydd Gwyl Dewi unwaith eto drwy strydoedd Dinbych eleni ac mae’n braf gweld yr holl blant yn mwynhau.”
“Mae’n nodi Dydd Gŵyl Dewi yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn galendr, ac rydym yn falch o roi’r cyfle i bobl ifanc uniaethu â’u treftadaeth, iaith a diwylliant.
Ychwanegodd Ruth ei bod hi’n “wych croesawu disgyblion a staff ysgolion Tremeirchion, Bro Cinmeirch, Cefn Meiriadog, Pendref, Ysgol y Parc, Pant Pastynog, Henllan, Frongoch, Twm o’r Nant, Plas Brondyffryn, Trefnant, Ysgol Glan Clwyd, Santes Ffraid, Coleg Myddelton ac Ysgol Uwchradd Dinbych atom eleni.
“Rydym yn ddiolchgar i holl ddisgyblion a staff yr ysgolion am drefnu a mynychu. Yn ogystal â chyd-weithio gyda Chyngor Tref Dinbych, cafwyd cefnogaeth staff Grŵp Cynefin, yr Urdd, Rhieni Dros Addysg Gymraeg a sawl gwirfoddolwr. A heb cefnogaeth ein heddlu lleol, ni fyddai’r digwyddiad wedi bod yn bosib. Rhaid diolch i Lidl a’r Co-op am eu cefnogaeth hwythau hefyd.”
Ar ddiwedd y digwyddiad cyflwynwyd blodau ar ran y dorf i gynrychiolydd y Cyngor Tref, y Cynghorydd Ruth Griffiths gan Alys, Lottie a Layla, tair fach a oedd wedi cymryd rhan yn yr orymdaith am y tro cyntaf gyda chriw o ofalwyr plant.
Am luniau o’r digwyddiad a gwybodaeth bellach am wasanaethau Menter Iaith Sir Ddinbych ewch i’r dudalen Facebook, Twitter neu Instagram neu galwch draw i’r wefan. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli o fewn eich cymuned neu gefnogi gwaith y Fenter yn ariannol, cysylltwch â Ruth Williams ar 01745 812822 neu ruth@misirddinbych.cymru
Cystadleuaeth Ffenestri Dydd Gŵyl Dewi
Dros yr wythnosau diwethaf, bu busnesau a siopau trefi ledled y sir yn cystadlu’n frwd yn ein cystadleuaeth Ffenestri Dydd Gwyl Dewi. Roedd hi’n braf iawn gweld ffenestri’r sir wedi’u haddurno i ddathlu diwrnod cenedlaethol ein nawddsant.
Diolch yn fawr i’r Cynghorau Tref am gefnogi’r gystadleuaeth ac o feirniadu a thasg anodd iawn oedd dewis enillwyr.
Dyma’r enillwyr o’r trefi eleni. Llongyfarchiadau i bawb!
Llanelwy
1af Jacobs Ladder
2il St Asaph Tyre and Battery
3ydd Caffi Cyfieithwyr / Translator Tearoom






Dinbych
1af Tŷ Gwyrdd
2il Tony Griffiths
3ydd Queens Salon



Rhuthun
1af Taten Poeth
2il Tŷ Architecture
3ydd Siop Elfair


Llangollen
1af Handmade Llangollen
2il Bluebay Landuary
3ydd Porters Deli
4ydd Anna’s Bakery



Mae casgliad llawn o’r lluniau ar ein Facebook!