Lleuwen yn dychwelyd i Sir Ddinbych i berfformio yng Ngwesty Owain Glyndŵr ar y 15fed o Chwefror
Mae’r daith yn rhan o brosiect ar y cyd gan PYST, Mentrau Iaith Cymru a chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru: prosiect sydd eisoes wedi gweld teithiau llwyddiannus gan HMS Morris, The Gentle Good a Gwilym Bowen Rhys Trio.
Bydd y daith yn gweld Lleuwen yn ymweld â 9 o leoliadau gwahanol ledled Cymru dros fis Chwefror ac yma yn Sir Ddinbych bydd hi’n perfformio’n fyw yng Ngwesty Owain Glyndŵr yng Nghorwen gyda Melda Lois yn cefnogi.
Bwriad y bartneriaeth yw ail-gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg fyw i ardaloedd gwledig Cymru ac i gynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn cael mynediad at gerddoriaeth fyw yn lleol.
Dyma gyfle prin i glywed Lleuwen yn perfformio set o ganeuon newydd gwreiddiol (ac ambell hen glasur!) Cymraeg, cyn iddi ddychwelyd i’r stiwdio yn ddiweddarach eleni.
Cerddor-cyfansoddwraig o Gwm Croes ger Llanuwchllyn yw Melda Lois ac yn ddiweddar bu iddi rhyddhau sengl ddwbl Am Eiliad / O’r Ddwy Lan ar y label recordio Ika Ching.

Mae’r tocynnau ar gyfer y daith bellach ar gael ac mae’n bosibl archebu tocynnau ar gyfer noson yng Nghwesty Owain Glyndŵr yma: Gig Lleuwen Steffan yng Ngwesty Owain Glyndŵr tocynnau digwyddiad o TicketSource
Dyma restr o ddyddiadau’r daith:
