Mewn ymgyrch arbennig i gynnig cyfleoedd newydd i ‘Gyfeillion y Gymraeg’ yn Sir Ddinbych, mae Menter Iaith Sir Ddinbych wedi lansio cynllun newydd sbon.

Bwriad y cynllun yw tynnu caredigion cymunedol at ei gilydd sydd eisiau cyfrannu at les, ffyniant a dyfodol y Gymraeg o fewn cymunedau Sir Ddinbych.

Yn ôl Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych: “Rydyn ni mor ffodus o gael ‘Cyfeillion y Gymraeg’ ar hyd a lled y sir. Dyma’r unigolion sy’n cyfrannu tuag at weithgareddau, digwyddiadau a sesiynau yn y Gymraeg o fewn ein cymunedau. Hebddynt, byddai’r ardal yn lle llwm iawn.

“Mae’r rhain yn bobl ifanc ac oedolion sydd â diddordeb yn y Gymraeg, yn ein diwylliant, ein treftadaeth a’n cymunedau. Ac maen nhw’n gweithio yn wirfoddol ac yn ddi-flino i hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob ffordd posib o fewn eu cymunedau.”

Yr hyn mae’r Fenter yn awyddus i’w wneud yw ffurfioli’r broses hon. Creu rhwydwaith o unigolion sy’n fodlon eistedd ar gofrestr Menter Iaith Sir Ddinbych, fel eu bod yn cael cyfleoedd i ddod allan i ddigwyddiadau, i sgwrsio â dysgwyr, i stiwardio, i arwain sesiwn i blant bach, i arwain taith gerdded neu i bresennoli, yn y cefndir, mewn digwyddiadau.

“Yr hyn rydyn ni’n awyddus i’w wneud yw cynnig y sgiliau, y canllawiau a’r hyder i unigolion fod yn rhan o dîm ehangach Menter Iaith Sir Ddinbych, fel bo’r galw. Tîm bychan iawn o staff sydd gennym ni, ac er mwyn ehangu ein heffaith a’n dylanwad ieithyddol ar gymunedau, rydym angen mwy o ddwylo ar y llyw.

“Mae rhai unigolion yn awyddus i droi allan o’r tŷ unwaith yr wythnos. Eraill, ddim ond yn gallu cynnig dwy awr o gymorth unwaith y mis. I rhai bobl ifanc sydd wedi’n cynorthwyo ni yn y gorffennol, maent wedi ennyn profiad a sgiliau o’r byd gwaith wrth gydweithio â ni – gwych i CV.

Un sydd wedi elwa o’r profiad yw Gwenno Williams, 21 o Lannefydd ger Dinbych. Bellach ar fin gorffen ei chwrs yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, daeth Gwenno at y Fenter i ennill profiad gwaith er mwyn datblygu ei sgiliau yn y gweithle.

“Ces i fwynhad mawr wrth droi at y Fenter fel gwirfoddolwr i ennill profiad o weithio gyda’r tîm o staff er mwyn datblygu fy sgiliau ac i ennill hyder o fewn y gweithle,” meddai Gwenno.

“Bues i’n cynorthwyo mewn gweithgareddau i blant a phobl ifanc drwy; drefnu’r offer priodol ar gyfer y sesiynau, creu a dylunio adnoddau yn y swyddfa cyn mynd ymlaen i gynllunio gofod addas ar gyfer denu diddordeb rhieni a phlant mewn digwyddiadau penodol trwy gyfrwng y Gymraeg.”

“Ces y cyfle i arwain sesiynau darllen stori yn y Gymraeg i blant bach, rhywbeth y gwnes i fwynhau yn arw, a hynny yn arbennig gan fy mod i â diddordeb troi i’r byd addysg fel gyrfa, yn y dyfodol. Trodd y gwirfoddoli wedyn yn rôl gyflogedig i mi gyda’r Fenter, wrth i mi ddod adref yn ystod gwyliau o’r coleg. Dwi’n ddiolchgar iawn am bob cyfle a ges i a byddwn yn annog unrhyw un i gysylltu â’r Fenter am gyfleoedd tebyg.”

Yn ôl Ruth Williams: “Rydyn ni’n ofnadwy o ffodus, bod cymaint o bobl yn gweithio yn wirfoddol, yn barod o fewn ein cymunedau ni ledled y sir. Y cyfan rydyn ni’n awyddus i wneud gyda’r cynllun ‘Cyfeillion y Gymraeg’ yw ffurfioli nifer o’r prosesau sydd gennym, er mwyn creu banc o bobl i ehangu ein heffaith a’n dylanwad ar yr iaith yn Sir Ddinbych.

Dwy sydd wastad wrth law, ac yn gwirfoddoli gyda nifer o sefydliadau yn yr ardal yw Gwyneth Kensler a Gaynor Morgan Rees, y ddwy o Ddinbych. Mewn digwyddiad diweddar yn Theatr Twm o’r Nant yn y dref, roedd Menter Iaith Sir Ddinbych yn cydweithio gyda’r theatr i hyrwyddo a hwyluso taith gerddorol y band gwerin, Cowbois Rhos Botwnnog.

Yn ôl Gwyneth Kensler, un o wirfoddolwyr Theatr Twm o’r Nant: “Mae’r Fenter yn gwneud gwaith arbennig o dda yn nhref Dinbych a thu hwnt. Un o fy hetiau i o fewn y dref yw gwirfoddoli gyda Theatr Twm o’r Nant. Mae’n braf gallu cydweithio gyda Ruth a’r tîm i ddenu band cenedlaethol o safon yma i Ddinbych.

Meddai Gaynor Morgan Ress: “Un o’r pethau a’m denodd fi gyntaf i dref Dinbych oedd y bwrlwm Cymraeg a Chymreig oedd yn y dref, nôl yn 1982. Rydw i a Gwyneth yn gwirfoddoli gyda Theatr Twm o’r Nant ers 35 o flynyddoedd.

“Trwy nifer o’r pwyllgorau, fel Amgueddfa Dinbych, Drysau Agored Dinbych ac yn fy rôl fel Cynghorydd Tref, rydw i wedi cydweithio’n agos â Menter Iaith Sir Ddinbych. Byddwn yn annog i unrhyw un sydd ag amser ac egni, i gysylltu a’r Fenter i gorfrestru diddordeb. Does gennych chi ddim byd i golli!

Am ragor o wybodaeth am ffyrdd o gefnogi’r Gymraeg trwy gwirfoddoli hefo’r Fenter: Cefnogwch Ni | Menter Iaith Sir Ddinbych (misirddinbych.cymru)

Os oes gen ti ddiddordeb, dos i wefan Menter Iaith Sir Ddinbych a llenwi’r ffurflen gofrestru i gofrestru diddordeb a bydd Menter Iaith yn cysylltu â thi am sgwrs bellach. www.menteriaithsirddinbych.cymru